Pwy a beth yw Urdd Gobaith Cymru?

Ni yw Urdd Gobaith Cymru. Mudiad ieuenctid mwyaf Cymru. Ein nod yw sicrhau cyfleoedd a phrofiadau, trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, i holl ieuenctid Cymru ddatblygu’n ddinasyddion cyflawn, hyderus.

Rydym yn fudiad unigryw lle mae’r Gymraeg yn ganolog i’n gwasanaeth ac sy’n ymateb i ofynion plant a phobl ifanc heddiw. Nid oes ei thebyg yn y byd ac rydym yn cael ein cydnabod yn rhyngwladol am arwain y ffordd yn narpariaeth ieuenctid llwyddiannus drwy iaith leiafrifol.

Mae’r profiadau rydym yn eu cynnig yn amrywio o gyfleoedd cymunedol a chwaraeon, gwaith ieuenctid, celfyddydol, preswyl, dyngarol, awyr agored, rhyngwladol, prentisiaethau, hyfforddi a gwirfoddoli.

Mae dros 4.5 miliwn o ieuenctid Cymru wedi manteisio ar ein gwasanaeth dros y ganrif ddiwethaf.

Urdd / Pentre Ifan

Yr Urdd a’r iaith Gymraeg

Y Gymraeg yw iaith holl ddarpariaeth yr Urdd, a’r ethos yw dysgu trwy weithgareddau a phrofiadau sy’n cyfoethogi dysgwyr mewn amgylchedd Cymreig gyfeillgar lle mae’r Gymraeg yn iaith fyw.

Mae ein gweithgareddau i gyd yn cynnig amgylchedd diogel i ddefnyddio’r Gymraeg, beth bynnag y safon. A thrwy gymdeithasu, ceir y cyfle i ddod yn gyfarwydd â defnydd naturiol, pob dydd y Gymraeg.

Diogelu plant a phobl ifanc

Yn yr Urdd, ein cenhadaeth diogelu yw darparu amgylchedd diogel, cadarnhaol a phleserus i bawb sy’n ymwneud â’n gweithgareddau.

Mae gennym dîm o Bersonau Diogelu Dynodedig i roi cyngor a chefnogaeth, gan sicrhau bod mesurau diogelu cadarn yn eu lle ar draws pob agwedd o ddarpariaeth yr Urdd.

DYSGWCH MWY YMA

Ein polisïau

Archwiliwch bolisïau’r Urdd a’n hymrwymiad i arferion gorau.

Dysgu mwy

Urdd i Bawb

Edrychwn ymlaen yn hyderus at y ganrif nesaf drwy sicrhau Urdd i Bawb i holl blant a phobl ifanc Cymru.