Plant yn eu hetiau diogelwch yn mwynhau gweithgareddau Llangrannog

Gwyliau i’w gofio

Mae gwersylloedd yr Urdd yn dod â phobl ifanc ynghyd am brofiadau preswyl ledled Cymru. O anturiaethau awyr agored a chwaraeon i berfformio, cerddoriaeth, technoleg a natur, mae pob gwersyll yn cynnig rhywbeth gwahanol.

“Anhygoel, eisiau mynd eto!”
“FFANTASTIG”
“Roedd staff yr Urdd mor neis a ffyni.”
“Nes i fwynhau pob eiliad.”
“Atgofion fydd gen i am byth.”

Adborth rhai o blant Gwersylloedd Haf 2025
Plant yn mwynhau ar y dwr yng Nglan-llyn

Mae pob gwersyll yn cynnig profiad gwahanol

Gall un gwersyll olygu treulio’ch dyddiau ar y dŵr, yn dringo ac yn archwilio’r awyr agored. Gall un arall ganolbwyntio ar gerddoriaeth, perfformio, codio, cadwraeth neu ddarganfod rhywle newydd.

Mae rhai gwersylloedd yn para ychydig ddyddiau, tra bo eraill yn cynnig profiad preswyl hirach. Mae dewisiadau ar gael ar gyfer gwahanol oedrannau, diddordebau a lefelau o Gymraeg, gan gynnwys gwersylloedd sydd wedi’u creu’n arbennig ar gyfer dysgwyr.

Yr hyn sy’n gyffredin iddynt yw’r cyfle i gael seibiant o’ch trefn arferol, treulio amser gyda phobl ifanc eraill a bod yn rhan o brofiad cofiadwy.

Baner Glas yr Urdd yn chwifio o flaen Canolfan y Mileniwm

Eisiau cysylltu â ni?

Peidiwch â dal yn ôl – cysylltwch i drafod ein Gwersylloedd Haf!