Taith Llyn Garda 2026

Dewch gyda ni!

Cyfle bythgofiadwy i ddisgyblion Bl. 9-10 i fynd ar wyliau gyda’u ffrindiau, a gwneud ffrindiau newydd, ar daith i un o wledydd atyniadol Ewrop. Bydd yn cynnwys ymweld â Venice.

I ddisgyblion sydd am fod ym Mlwyddyn 9 neu 10 ym mis Gorffennaf 2027.

Archebion yn agor: Medi

Gwybodaeth am y daith

Pryd mae’r daith?
Gorffennaf 2027

Pa mor hir mae’n para?
Wythnos

Beth yw’r pris?

  • £999 ar gyfer aelodau’r Urdd – os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.
  • Bydd blaendal o £99 wrth archebu, a chynllun talu dros gyfnod o 10 mis, neu fe allwch dalu’n llawn.

Beth sy’n cael ei gynnwys yn y pris?

  • Trafnidiaeth o fannau casglu penodol ar draws Cymru
  • Croesi o Dover i Calais ar y llong
  • Gwesty ‘Full Board’
  • Ymweliad â Gardaland
  • Ymweliad â Aqua Paradise, Canevaworld a Movieland
  • Ymweld â phentref Riva del Garda a thaith gwch ar Llyn Garda
  • Ymwliad â Venice gyda thaith gwch o Tronchetto i San Marco
  • Ymweliad â St Mark’s Square, llogi gondola a siopa!
  • Ymweld â phentref Malcesine a thaith Cable Car i ben Mynydd Balbo
  • Cyfleoedd i ymlacio wrth y pwll
  • Yswyriant Teithio llawn
  • Staff a gwirfoddolwyr profiadol yn arwain y ffordd
  • Lot fawr o hwyl!

Esiampl o amserlen

  • 7:00am Gadael Cymru. Bydd angen bwyd ar gyfer y daith.
  • 3:00pm Fferi yn hwylio am Ffrainc.
  • 9:00pm Bws yn teithio trwy’r nos i lawr i Llyn Garda.
  • 2:00pm Cyrraedd y Gwesty: Hotel Lago di Garda, Bussolengo Verona.
  • 3:00pm Prynhawn rhydd wrth y pwll nofio ac ar y gwlâu haul.
  • 7:00pm Swper yn y gwesty
  • 7:00am Brecwast
  • 8:00am Syth i barc thema Gardaland.
  • 9:00am Mwynhau un o barciau hamdden fwyaf Ewrop!
  • 7:00pm Swper yn y gwesty
  • 7:00am Brecwast
  • 8:00am Treulio’r dydd yn Canevaworld, Aquapark a Movieland.
  • 12:00pm Pecynnau bwyd yn cael eu darparu.
  • 7:00pm Swper yn y gwesty
  • 7:00am Brecwast
  • 9:00am Taith gwch i fewn i San Marco.
  • 11:00am Ymweld â rhai o atyniadau mwya dinas Venice.
  • 9:00pm Dychwelyd i’r gwesty.
  • 7:00am Brecwast
  • 9:00am Ymweld â phentref Malcesine.
  • 10:00am Taith Cable Car i ben Mynydd Balbo.
  • 12:00pm Gadael am y parc dŵr.
  • 7:00pm Swper yn y gwesty
  • 7:00am Brecwast cyn pacio.
  • 9:00am Cyfle i ymlacio wrth y pwll cyn cychwyn am adre.
  • 4:00pm Gadael y gwesty.
  • 9:00pm Fferi. Cyrraedd Cymru’n hwyr y diwrnod canlynol.

Rhestr pacio

  • Pasbort a cherdyn UKGHIC
  • Arian (ewro a sterling)
  • Clustog a blanced ar gyfer cysgu ar y bws
  • DVDs, llyfrau ac adloniant addas
  • Sbectol haul!

Cwestiynau cyffredin

Bydd angen dod â phasbort cyfredol a cherdyn UKGHIC; bydd staff yr Urdd yn gofalu am y rhain yn ystod y daith. Mae modd gwneud cais am gerdyn UKGHIC yma: www.ehic.org.uk

Bydd rhaid sicrhau fod gofynion mynediad yn unol a rheolau’r swyddfa dramor :https://www.gov.uk/foreign-travel-advice/france/entry-requirements

Rydym yn argymell dod â €130 a £30 ar gyfer bwyd. Mae arian gwario ar bethau eraill (anrhegion, lluniau) i fyny i chi. Ni fydd aelodau staff yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am arian eich plentyn.

Mae yswiriant yn gynwysedig ym mhris y daith, ond nid yw’n cynnwys unrhyw gyflwr sy’n bodoli eisoes.

Wrth archebu mae ffurflen i’w lenwi fewn i nodi pwy ydi’r ffrindiau sydd yn mynychu’r daith; fe fyddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod pawb yn hapus gyda’u ystafelloedd ac efo pwy mae nhw’n rhannu.

Mae’r ystafelloedd yn gymysgedd o ystafelloedd i 3,4 neu 5 yn ddibynnol ar y gwesty.

Taith Llyn Garda 2026

Barod i archebu?

Archebwch eich lle ar y daith ym mis Medi – cyntaf i’r felin!