Dros 7,000 o chwaraewyr rygbi ifanc yn teithio i Gaerdydd i gystadlu am deitl Rygbi 7 Bob Ochr yr Urdd a WRU, sef y gystadleuaeth rygbi fwyaf o’i bath yng Nghymru.
Rhwng 20 a 24 Ebrill, bydd mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, Urdd Gobaith Cymru, mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru, yn croesawu 530 o dimau i gaeau Pontcanna i gystadlu yn y twrnamaint.
Mae’r digwyddiad rygbi cwbl gynhwysol yn cynnwys categorïau ar gyfer plant ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a cholegau, yn ogystal ag ysgolion anghenion dysgu ychwanegol. Bydd disgyblion AAA uwchradd hefyd yn cael cyfle i chwarae rygbi TAG a datblygu sgiliau newydd.
Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd:
“Unwaith eto eleni, bydd miloedd o chwaraewyr yn dod ynghyd ar gaeau Pontcanna ar gyfer twrnamaint rygbi 7 bob ochr mwyaf Cymru i bobl ifanc, sef Rygbi 7 Bob Ochr yr Urdd a WRU 2026.
“Rwy’n arbennig o falch bod Gŵyl Ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol yn dychwelyd eleni, gan sicrhau bod pob person ifanc yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y digwyddiad cwbl gynhwysol hwn.
“Mae cymuned a chwaraeon llawr gwlad wrth galon popeth a wnawn yn yr Urdd. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i’n gwirfoddolwyr ymroddgar, sef ein trefnwyr, hyfforddwyr a dyfarnwyr, sy’n gweithio’n ddiflino i roi profiadau eithriadol i bobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i’n partneriaid am eu cefnogaeth barhaus wrth ddatblygu’r twrnamaint. Diolch arbennig i Undeb Rygbi Cymru; i Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd am barhau i gynnig cyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr i’w myfyrwyr yn ein digwyddiad; ac i bawb sy’n gwirfoddoli gyda ni eleni.”
Gall cefnogwyr chwaraeon ddilyn y twrnamaint drwy gydol yr wythnos ar ffrwd fyw, a fydd yn cael ei rhannu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol yr Urdd yn ogystal â thudalen Facebook S4C Rygbi.