Beth sydd angen ei wneud i gwblhau’r Alldaith gyda’r Urdd

I gwblhau alldaith llwyddiannus gyda ni, mae nifer o bethau y bydd angen i chi wneud: 

Sicrhewch eich lle drwy gofrestru ar-lein a thalu blaendal, gyda’r gweddill i’w dalu cyn y daith gyntaf. 

Mae hyn i sicrhau eich bod yn derbyn yr hyfforddiant cywir cyn cymryd rhan yn yr asesiad. Byddwn yn rhannu gwybodaeth bwysig ac mae’n cyfle i chi ddod i adnabod pawb.  

Byddwn yn trafod y llwybrau ar gyfer y teithiau yn ystod y diwrnod hyfforddiant, neu cyn yr alldaith. Disgwyliwn i set o gardiau cerdded (un y dydd) i gael eu chwblhau ar gyfer yr alldaith ymarfer ac asesiad. Mae’r rhain yn orfodol ac yn cyfri tuag at eich asesiad.

Mae’r gofynion hyn wedi’u osod gan y Wobr Dug Caeredin fel bod pob taith yn cael ei rhedeg i safon uchel. Mae’r gofynion yn cynnwys: 

  • Cerdded fel grŵp o 4-7 aelod
  • Creu cynllun bwyd a chardiau cerdded dyddiol i’r 2 alldaith
  • Cytuno a’r amcan grŵp i’w gwblhau yn ystod yr alldeithiau
  • Bod yn hunangynhaliol ar gyfer y daith gyfan (cerdded fydd eich dull cludiant)
  • Gwersylla dros nos mewn pabell

Byddwn yn rhannu gwybodaeth bwysig gyda chi dros e-bost, felly cadwch lygad ar eich blwch derbyn. 

Cofrestru

Mae cofrestru ar gyfer alldeithiau 2026 nawr ar agor!

Sicrhewch eich bod yn darllen y wybodaeth i gyd cyn cofrestru. Byddwch angen talu blaendal i gadw eich lle, a thalu’r gweddill erbyn yr alldaith ymarfer.

Cofrestrwch yma!