Cliciwch ar y ddolen isod i dalu blaendal am le ar ein pecyn Efydd. Gwiriwch y dyddiadau cyn bwcio – mae’n bwysig eich bod chi’n cyflawni pob dyddiad er mwyn llwyddo. Mae’r pecyn yn cynnwys 2 ddiwrnod hyfforddiant ac alldaith 2 ddiwrnod gyda gwersylla.
Ar ôl cofrestru, byddaf mewn cyswllt i rannu mwy o wybodaeth am y diwrnodau hyfforddiant ac alldaith. Bydd hwn yn cynnwys llyfr gwybodaeth Dug Caeredin Efydd, efo gwybodaeth lleoliadau, amseroedd ac offer ar gyfer yr alldaith.
Gallwn ddarparu hyfforddiant ac alldeithiau i’r Wobr Dug Caeredin Efydd, yn ogystal ag unrhyw hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr.
Mae cofrestru ar gyfer alldeithiau 2026 nawr ar agor!
Bydd angen eich rhif EDofE i lenwi’r ffurflen ar-lein. Mae rhaid i chi cofrestru gyda Sefydliad Trwyddedig, e.e ysgol neu grŵp ieuenctid, cyn gallu cofrestru ar alldeithiau’r Urdd. Plîs cysylltwch gyda’r Wobr Dug Caeredin os ydych yn ansicr ar sut i wneud hyn.
Plîs sicrhewch eich bod chi’n llenwi a thicio pob bocs ar y ffurflen, yn ogystal â mewnbynnu eich manylion cerdyn, cyn cadarnhau.