Cyfansoddiadau eiconig

Yng Nghaerdydd fis Awst 2026, mi fydd Cwmni Theatr yr Urdd yn llwyfannu Calon; sioe gerdd newydd sbon yn llawn o ganeuon eiconig a ysgrifennwyd gan Caryl Parry Jones dros y degawdau.

Y sioe

Bydd y sioe yn cael ei pherfformio yn Theatr Donald Gordon Canolfan Mileniwm Cymru, yr ail lwyfan fwyaf yn Ewrop, ar 27, 28 a 29 Awst 2026. 

Hon fydd sioe fwyaf Cwmni Theatr yr Urdd ar ei newydd wedd, ers ail-lansio yn ystod blwyddyn canmlwyddiant y Mudiad yn 2022 diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.