Cyhoeddiad am gylchgrawn Bore Da

Bu’n rhaid i waith yr Urdd, fel nifer o elusennau a sefydliadau eraill, addasu yn sylweddol o ganlyniad i’r pandemig, a penderfynwyd cyhoeddi fersiynau digidol o gylchgronau’r Urdd yn hytrach na phrint, a hynny yn rhad ac am ddim.

Yn anffodus, nid oedd modd i’r Urdd barhau i gyhoeddi tri chylchgrawn o fis Medi 2021 ymlaen, a bu’n rhaid gwneud y penderfyniad i ddirwyn cylchgrawn Bore Da i ben.

Roedd hyn yn benderfyniad anodd ac rydym yn ymwybodol y bydd yn siom i’n tanysgrifwyr ffyddlon. Fodd bynnag, rydym yn benderfynol o barhau i gyhoeddi cylchgrawn o safon i ddarllenwyr oed cynradd (Cip) a dysgwyr Cymraeg oed uwchradd (IAW) er mwyn cadw’r arlwy yn deg ar draws yr ystod o oedrannau.

Byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau fod cylchgrawn Cip yn addas i ystod mor eang â phosib o ddarllenwyr oedcynradd. Mi fydd posau a chartwnau yn addas i ddysgwyr, a byddwn yn cynhyrchu fersiynau sain a fideo o straeon Cip, hefyd.

Yn ogystal, mae ôl-rifynnau o gylchgrawn Bore Da ar gael yma.

Beth am danysgrifio i gylchgrawn Cip?

Tanysgrifia i dderbyn Cip neu IAW (neu’r ddau!) drwy e-bost.