Mae gan bobl ifanc rôl allweddol yn ein llywodraethiant. Mae o leiaf 2 sedd ar bob un o’n byrddau strategol wedi eu neilltuo i’n haelodau.
Bellach mae’n ddiwedd gyfnod ar yr aelodau 18-25 oed presennol ac rydym yn chwilio am aelodau newydd i eistedd ar bob un o’r byrddau am gyfnod amser o 3 blynedd.
Dyma gyfle unigryw i gefnogi mudiad sydd wedi grymuso cenedlaethau o bobl ifanc yng Nghymru. Nid oes angen profiad blaenorol nac arbenigedd – rydym yn chwilio am lleisiau newydd, brwdfrydedd, a safbwyntiau amrywiol.
Tra’n parchu ein haelodaeth graidd, rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein Byrddau Strategol yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru heddiw. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan unigolion o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli yng Nghymru.
Rydym yn credu bod amrywiaeth o brofiadau a safbwyntiau yn cryfhau ein gwaith ac yn sicrhau bod llais pob person ifanc yn cael ei gynrychioli.