Tlodi

Roedd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2025 yn canolbwyntio ar Dlodi.

Gyda’r argyfwng tlodi plant presennol i’w weld yng Nghymru ac ar draws y byd, dewisodd yr Urdd a phobl ifanc Cymru i ganolbwyntio ar y mater hollbwysig hwn.

Gydag un ym mhob tri o blant a phobl ifanc Cymru yn byw mewn tlodi, roedd y Neges Heddwch yn datgan yn glir yr angen am newid.

Crëwyd y neges gan aelodau’r Urdd a myfyrwyr o Goleg y Cymoedd gyda chefnogaeth Katie Hall o’r band Chroma, elusen Achub y Plant a’r dylunydd graffeg Steffan Dafydd.

Negeseuon y gorffennol

Mae casgliad o Negeseuon Heddwch y blynyddoedd diweddar ar gael ar ein gwefan, ac archif o Negeseuon y gorffennol ynghyd â delweddau hanesyddol ar wefan Casgliad y Werin Cymru.