Ein cynnig

Sefydlwyd ein HWB Sgiliau Hanfodol er mwyn sicrhau bod gan pob dysgwyr ledled Cymru yr opsiwn o ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, rhifedd a llythrennedd digidol drwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog, wrth dderbyn hyfforddiant a phrofiad addysgu o’r safon uchaf.

Mae’r cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn addas i unigolion mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd—boed ar gyfer datblygiad personol, gwella sgiliau cyflogadwyedd, symud ymlaen yn eu gyrfa, neu i fodloni gofynion cymhwyster neu raglen hyfforddi.

Fel arfer, mae lefel y cymhwyster Sgiliau Hanfodol (CSH) sy’n ofynnol yn dibynnu ar lefel a chynnwys y rhaglen hyfforddi neu gymhwyster ehangach y mae’r unigolyn yn ei dilyn.

Gall y Tîm Datblygu Busnes eich cynghori ar y lefelau CSH priodol ar gyfer unrhyw raglen neu lwybr datblygu sgiliau.

Mae pob rhaglen prentisiaeth yn cynnwys elfennau o Sgiliau Hanfodol. Mae gan yr HWB arbenigwyr sy’n helpu prentisiaid ac unigolion i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, rhifedd a llythrennedd digidol trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Yn ddibynnol ar eich cymwysterau blaenorol, bydd yn ofynnol i gwblhau rhai cymwysterau Sgiliau Hanfodol fel rhan o rhaglen brentisiaeth. Bydd ein tîm cyfeillgar ac arbenigol yn eich tywys chi bob cam o’r ffordd.

Mae’r cymwysterau sgiliau hanfodol yn ffordd o hybu sgiliau cyfathrebu, rhifedd a llythrennedd digidol y gweithlu i sicrhau eu bod yn gymwys a’n ymdrin â’r tasgau sydd ynghlwm yn hyderus.

Gall eraill yn eich gweithlu gwblhau cymwysterau sgiliau hanfodol petasech chi eisiau hybu eu sgiliau a hyder hwythau.

Gall ddarparwyr gyfeirio dysgwyr at yr Urdd er mwyn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn llwyr trwy’r Hwb wrth greu partneriaeth cryf neu drefniant is-gontractio.

Mae gennym strwythur prisio cystadleuol ac yr ydym yn agored i ystyried trefniant a all weithio i chi.

Os ydych yn darparu Sgiliau Hanfodol trwy’r Gymraeg yn barod ac angen cymorth mewn unrhyw ffordd i alluogi eich dysgwyr i lwyddo mae modd i gael trafodaeth am ffyrdd gallwn ni eich helpu. Gall eich dysgwyr ymuno yn ein gweithdai, cael mynediad at recordiadau neu at adnoddau o safon uchel i helpu gyda’ch darpariaeth.

  • Cofrestru dysgwyr
  • Partneriaeth neu drefniant is-gontractio
  • Cynllun dysgu
  • Adolygiadau misol i asesydd ddilyn cynnydd
  • Gweithdai rhithiol deniadol
  • Adnoddau gyfrwng Cymraeg
  • Cymorth 1:1 gyda thiwtor profiadol
  • Recordiadau manwl
  • Cefnogaeth i lwyddo yn y dasg a’r prawf
  • Ardystio

Pecyn wybodaeth

Lawrlwythwch pecyn wybodaeth cyflawn yma neu cysylltwch â ni os am drafod ymhellach.