Dewch gyda ni!

Cyfle i aelodau o’r Urdd sy’n Bl. 7-8 nawr i fynd ar wyliau gyda’u ffrindiau i un o barciau antur enwocaf y byd flwyddyn nesaf, yn ogystal â gweld rhai o brif atyniadau prifddinas Ffrainc, Paris.

Archebu lle heddiw

Gwybodaeth am y daith

Ar gyfer pwy?
Mae’r daith hon ar gyfer disgyblion sydd am fod yn Blwyddyn 8 neu 9 ym mis Hydref 2027, felly ym Mlwyddyn 7 neu 8 ar hyn o bryd.

Pryd mae’r daith?
Hanner Tymor Hydref 2027

Pa mor hir mae’n para?
Pedwar diwrnod, gan gynnwys dwy noson mewn Gwesty Disney ym Mharis.

Beth yw’r pris?
£699 ar gyfer aelodau’r Urdd – os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma. Bydd blaendal o £150 wrth archebu, a chynllun talu dros gyfnod o 10 mis, neu fe allwch dalu’n llawn.

Beth sy’n cael ei gynnwys yn y pris?

  • Trafnidiaeth
  • Croesi o Dover i Calais ar y llong
  • Gwesty, gwely a brecwast am ddwy noson
  • Tocyn 1 x Swper (y noson gyntaf yn y gwesty)
  • Taith gwch ar yr afon Seine
  • Taith bws o amgylch Paris
  • Tocyn 2 ddiwrnod i Disneyland Paris, Disney Studios a Disney Village
  • Staff a gwirfoddolwyr profiadol yn arwain y ffordd
  • Lot fawr o hwyl!

Esiampl o amserlen

  • 6:00pm Gadael Cymru mewn coets a theithio dros nos am Ffrainc.
  • 9:00am Cyrraedd am ddiwrnod ym mharciau Disney
  • 6:00pm Swper yn Disneyland
  • 8:00pm Noson yn y gwesty
  • 8:00am Brecwast yn y gwesty
  • 9:00am Diwrnod arall yn mwynhau parciau Disney
  • 8:00pm Sioe Tân Gwyllt yn Parc Disneyland
  • 7:00am Brecwast yn y gwesty
  • 9:00am Gadael y gwesty am daith cwch ar afon Seine
  • 1:00pm Cychwyn adref
  • 1:00am Dychwelyd i’r mannau gollwng lleol yn oriau mân y bore.

Rhestr bacio

  • Pasbort a cherdyn UKGHIC
  • Arian (ewro a sterling)
  • Clustog a blanced ar gyfer cysgu ar y bws
  • DVDs, llyfrau ac adloniant addas
  • Cot law a dilled cynnes

Cwestiynau cyffredin

Bydd angen dod â phasbort cyfredol a cherdyn UKGHIC; bydd staff yr Urdd yn gofalu am y rhain yn ystod y daith. Mae modd gwneud cais am gerdyn UKGHIC yma: www.ehic.org.uk

Bydd rhaid sicrhau fod gofynion mynediad yn unol a rheolau’r swyddfa dramor: https://www.gov.uk/foreign-travel-advice/france/entry-requirements

Rydym yn argymell dod â €130 a £30 ar gyfer bwyd. Mae arian gwario ar bethau eraill (anrhegion, lluniau) i fyny i chi. Ni fydd aelodau staff yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am arian eich plentyn.

Mae yswiriant yn gynwysedig ym mhris y daith, ond nid yw’n cynnwys unrhyw gyflwr sy’n bodoli eisoes.

Wrth archebu mae ffurflen i’w lenwi fewn i nodi pwy ydi’r ffrindiau sydd yn mynychu’r daith; fe fyddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod pawb yn hapus gyda’u ystafelloedd ac efo pwy mae nhw’n rhannu.

Mae’r ystafelloedd yn gymysgedd o ystafelloedd i 3, 4 neu 5 yn ddibynnol ar y gwesty.

Barod i archebu?

Archebwch eich lle ar Daith Disneyland Paris 2027 – cyntaf i’r felin!