31 Mai 2026
Mae’r Urdd a’r cwmni Sbarduno wedi cynnal gweithdai STEM yn dysgu am trefn liwiau’r enfys ac hefyd bod yn rhan o weithdy cerddoriaeth yn dysgu can sy’n dathlu trefn cywir lliwiau’r enfys.
Bu plant o Ysgol y Graig, Ysgol Llanbedrgoch, Ysgol Pentraeth, Ysgol Llangoed, Ysgol Llanfechell, Ysgol Biwmares, Ysgol Amlwch, Ysgol Brynsiencyn, Ysgol Rhosneigs, Ysgol Parc y Bont, Ysgol Moelfre, Ysgol Llafairpwll, Ysgol Bryngwran, Ysgol Pencarnisiog, Ysgol Santes Dwynwen, Ysgol Morswyn, Ysgol Rhosybol, Ysgol Y FfriddYsgol Kingsland ac Ysgol Cemaes yn cydweithio ar y prosiect. Derbyniodd pob ysgol weithdy arbrofi a chreadigol, gan rhoi cyfleoedd I blant arbrofi gyda gwaith STEM yn osgystal a dysgu can newydd.
Yn ogystal, cynhaliwd gweithdai animeiddio yn Ysgol David Hughes ac Ysgol Bodedern yn Ynys Môn. Wedi’u harwain gan yr artist Sioned Medi Evans, llwyddwyd i greu fideo animeiddio yn esbonio trefn lliwiau’r enfys. Ar y cyd gyda Sbarduno llwyddwyd i greu adnodd addysgiadol ddigidol i ysgolion ar draws Cymru, yn benodol i’w ddefnyddio i addysgu plant am bwysigrwydd lliwiau’r enfys yn y diwydiant STEM. Roedd yr animeiddiad hefyd yn defnyddio symudiadau makaton er mwyn bod yr adnodd i ddefnydd unigolion sy’n defnyddio makaton i gynorthwyo cyfathrebu.
Bwriad y prosiect oedd annog creadigrwydd, ymwybyddiaeth gwyddonol a gwaith tîm ymhlith y disgyblion, wrth roi cyfle iddynt archwilio gwyddoniaeth a cherddoriaeth mewn ffordd newydd a chreadigol. Cafodd y prosiect ei ariannu drwy NRS (National Resources Services) a mewn phartneriaeth rhwng Eisteddfod yr Urdd, Sbarduno a Menter Môn. Lansiwyd Can yr Enfys ar lwyfan Garddorfa ar faes Eisteddfod yr Urdd gyda Cor Ieuenctid Môn yn canu ar y diwrnod gyda Elidyr Glyn (Bwncath) a Rhys Edwards (Fleur de Lys).
Dywedodd Awen Ashworth o Sbarduno:
“Roedd hi’n bleser gweithio gyda disgyblion a gweld pawb yn mwynhau creu lampiau lafa a meddwl fel gwyddonwyr bach. Cafon ni groeso cynnes ym mhob ysgol ac roedd hi’n wych cael rhannu gweithdai llawn canu, creadigrwydd ac arbrofi o bob math gyda’r disgyblion gan weithio gyda phartneriaid gwych lleol.”
Dywedodd Sioned Medi Evans:
“Mae plant wedi gwneud job da iawn chware teg yn gweithio ar y animeiddio 2D ac ar Canva… mae plant dyddia’ yma’ yn pigo petha’ fyny mor gyflym! Oddan nhw’n wych a dwi wedi mwynhau’n fawr iawn.”
Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd:
“Mae’r gefnogaeth yma gan NRS wedi’n galluogi i roi profiadau celfyddydol a gwyddonol i dros 100 o blant trwy Ynys Môn. Rydyn ni mor falch bod Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn wedi gadael gwaddol gelfyddydol-wyddonol ar ardal, ac ni fydden ni wedi gallu rhoi’r profiadau arbennig yma i’r plant drwy gyfrwng y Gymraeg heb gefnogaeth hael NRS. Mae’r fideo wedi’i fwynhau gan filoedd ar gyfryngau cymdeithasol yr Urdd a Sbarduno, sy’n golygu bod y fideo dal i fod yn adnodd defnyddiol i athrawon ac addysgwyr dros Gymru. Daeth degau o bobl i fwynhau’r lansiad yn y Garddorfa ar faes Eisteddfod yr Urdd gyda phlant Côr Ieuenctid Môn yn cael profi cyfleoedd celfyddydol unigryw ar eu stepen ddrws.”