Llwyddiant ysgubol i sioe gerdd wreiddiol fwyaf yr Urdd erioed wrth i Calon werthu dros 3,500 o docynnau

Cast a chriw ‘Calon’ gyda Caryl Parry-Jones a Non Parry

Mae Cwmni Theatr yr Urdd yn dathlu uchafbwynt yn ei hanes wrth i Calon – sioe gerdd sy’n dathlu caneuon Caryl Parry Jones, a chynhyrchiad mwyaf uchelgeisiol y cwmni erioed – agor i gynulleidfa o dros 1,300 neithiwr yn Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru. Cynhyrchwyd y sioe mewn cydweithrediad â Theatr Cymru, a hyd yn hyn mae dros 3,500 o docynnau wedi’u gwerthu ar draws pedwar perfformiad.

Mae’r cynhyrchiad wedi rhoi cyfle unigryw i 80 o dalent ifanc o bob cwr o Gymru, boed yn perfformio, yn chwarae mewn cerddorfa fyw neu’n rhan o’r criw cefn llwyfan, gan greu sioe sy’n llawn cerddoriaeth, egni a balchder Cymreig.

Ochr yn ochr â’r cast, cafodd nifer o bobl ifanc y cyfle i weithio ar bob agwedd o gynhyrchu sioe theatr broffesiynol, gan gynnwys gwaith technegol, dylunio a gwisgoedd, gan gael eu mentora gan artistiaid a chriw llwyfan proffesiynol drwy gydol y broses.

Mae Calon yn parhau i redeg tan nos Sadwrn hon. Mae tocynnau’n dal ar gael ar gyfer y perfformiadau ar ddydd Gwener (7.30pm) a dydd Sadwrn (2.30pm a 7.30pm) – yn rhoi cyfle olaf i weld y cynhyrchiad hanesyddol hwn cyn iddo ddod i ben.

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru:

“Mae Calon yn dangos yn union pa mor bwysig yw Cwmni Theatr yr Urdd fel rhan o’r Urdd. Rydyn ni wedi gweld 80 o bobl ifanc dalentog o bob cwr o Gymru yn dod at ei gilydd i greu rhywbeth mor arbennig – nid yn unig sioe anhygoel, ond profiad fydd yn aros gyda nhw am oes.
“Mae gwerthu dros 3,500 o docynnau ar gyfer ein cynhyrchiad mwyaf uchelgeisiol erioed yn dystiolaeth o dalent a gwaith caled ein pobl ifanc, a hoffwn ddiolch o galon iddyn nhw, i’n partneriaid yn Theatr Cymru, i’r tîm creadigol, ac i bawb sy’n dod i weld Calon.

“Hoffwn hefyd ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus, sy’n ein galluogi i gynnig cyfleoedd unigryw i bobl ifanc ledled Cymru, ac i barhau i feithrin y celfyddydau a’r Gymraeg ar lwyfan cenedlaethol.”

Wedi’i chyd-ysgrifennu gan Non Parry a Caryl Parry Jones, ei chyfarwyddo gan Rhian Blythe, gyda Math Roberts fel cyfarwyddwr cerdd, mae Calon yn dilyn Sil, merch 17 oed gyda niwroamrywiaeth sy’n byw gyda’i mam Beth. Mae byd Sil wedi’i gyfyngu i furiau ei hystafell wely – lle diogel oddi wrth fyd y tu allan sy’n aml yn teimlo’n rhy swnllyd, yn rhy ddryslyd, ac yn gyndyn o geisio deall ei hiaith hi.

Gydag arweiniad dau gymeriad hudolus, Ben a’i phrentis Cal, aiff Sil ar daith i “arall-fyd” lle mae’n cyfarfod pump o bobl ifanc eraill – Jed, Dilly, Jules, Elinor a Twm – pob un yn cario ei stori a’i frwydrau cudd ei hun, o alar a chyfrifoldeb, i chwilio am hunaniaeth, i bwysau disgwyliadau teuluol. Gyda’i gilydd, yn hen blasty Pencaerlonydd, mae’r criw yn dysgu am gyfeillgarwch, derbyniad a’r grym sydd i’w gael o fod yn driw i bwy ydych chi go iawn.

Mae’r sioe’n cael ei hadrodd trwy gasgliad o ganeuon eiconig Caryl Parry Jones o dros bedwar degawd o’i gyrfa, gan gynnwys yr anthem Calon ei hun, ynghyd â chaneuon fel Chwarae’n Troi’n Chwerw, Yn y Dechreuad, a Space Invaders.

Dyma sioe fwyaf Cwmni Theatr yr Urdd ers ail-lansio’r cwmni yn 2022, ym mlwyddyn canmlwyddiant yr Urdd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Cafodd ei gwireddu diolch i bartneriaeth arbennig â Theatr Cymru, gyda’u Cyfarwyddwr Cyswllt Rhian Blythe yn dod â’i phrofiad helaeth fel cyfarwyddwr ac actor i arwain y perfformwyr ifanc.

Mae teulu wedi bod yn rhan greiddiol o’r broses greadigol, wrth i Caryl weithio ochr yn ochr â’i chyfnither a’r gantores Non Parry, yn ogystal â dwy o’i merched: y cyfarwyddwr symudiad a choreograffydd Elan Isaac, a’r actores, cantores a chyflwynwraig Miriam Isaac.