Medi 26, 2026
Casglodd dros 2,000 o bobl ar strydoedd Casnewydd ddydd Sadwrn (26 Medi 2026) i orymdeithio ar gyfer Gŵyl Groeso Eisteddfod yr Urdd Bro’r Wenynen, Gwent 2027. Dyma’r cam cyntaf wrth i’r rhanbarth baratoi i groesawu’r Ŵyl i’r ddinas am y tro cyntaf.
Roedd y dathliadau’n cynnwys gorymdaith fywiog o Sgwâr John Frost tuag at Theatr Glanyrafon gyda jambori a pherfformiadau byw gan Martyn Geraint a Mei Gwynedd yn rhan o’r adloniant.
Cymerodd 55 o ysgolion Gwent ran yn yr Ŵyl Groeso, gan adlewyrchu’r brwdfrydedd ymhlith pobl ifanc yr ardal. Mae’r digwyddiad yn rhan o ymdrechion gwirfoddolwyr lleol i annog mwy o bobl ifanc yr ardal i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ac ysgogi pobl leol i fynychu’r ŵyl dros hanner tymor mis Mai.
Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau:
“Roedd hi’n hynod braf gweld cymaint o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn yr Ŵyl Groeso. Mae’n amlwg bod cyffro mawr o amgylch Eisteddfod Bro’r Wenynen yn barod.
“Mae croeso mawr i bawb yn Eisteddfod yr Urdd, ac mae cynnal ein prifwyl yng Nghasnewydd yn gyfle gwych i ddod â’n diwylliant at sylw cynulleidfaoedd newydd.
“Diolch i bawb ddaeth i gefnogi ac i wirfoddoli heddiw, ac i’r Pwyllgor Gwaith am drefnu’r diwrnod. Edrychwn ymlaen yn fawr at Eisteddfod yr Urdd Bro’r Wenynen, a chofiwch gysylltu os hoffech wirfoddoli neu gefnogi ar hyd y daith.”
Meddai Efa Maher, Cadeirydd Ifanc y Pwyllgor Gwaith:
“Mae’n destun balchder i ni ar y Pwyllgor Gwaith i weld cymaint o ieuenctid ein hardal yn cymryd rhan yng ngweithgareddau Eisteddfod yr Urdd Bro’r Wenynen.
“Mae’r Urdd yn cynnig profiadau anhygoel i blant a phobl ifanc drwy’r Gymraeg, a dwi’n un sydd wedi elwa cymaint o’r mudiad fy hun. Mae mor bwysig bod Eisteddfod yr Urdd yn dod i ardaloedd fel Casnewydd, i ni gael dangos yr holl gyfleoedd sydd ar gael drwy’r Gymraeg ar ein stepen drws.”
Mae Rhestr Testunau Eisteddfod yr Urdd Bro’r Wenynen, Gwent 2027 ar gael ar wefan yr Urdd ynghyd â threfn y cystadlaethau.
Cynhelir yr ŵyl yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd yn ystod gwyliau hanner tymor mis Mai, rhwng ddydd Sadwrn, 29 Mai a dydd Gwener, 4 o Fehefin 2027.