9 Hydref 2026
Yn paratoi disgyblion ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2027? P’un a ydych chi’n ymarfer gyda chôr, parti, unawdydd neu ddeuawd, mae adnoddau am ddim bellach ar gael drwy Charanga Cymru i helpu i wneud yr ymarferion hollbwysig hynny ychydig yn haws.
Mae Charanga Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Wasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru, gan alluogi pob ysgol yng Nghymru sy’n cael eu hariannu gan awdurdod lleol i gael mynediad at y platfform addysg gerddoriaeth dwyieithog yn rhad ac am ddim.
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, mae Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru a Charanga yn gweithio gyda’r Urdd i ddarparu adnoddau ymarfer ar gyfer detholiad o gystadlaethau’r Eisteddfod, gan helpu athrawon a disgyblion i baratoi, ymarfer a magu hyder cyn gŵyl 2027.
Gwrando. Ymarfer. Magu hyder.
Mae’r adnoddau’n cynnwys traciau cyfeiliant ar gyfer detholiad o:
- ddarnau i gorau a phartïon
Ar gyfer 2027, defnyddiwyd offerynnau chwyth i gynrychioli’r rhannau lleisiol yn y traciau ymarfer. Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws clywed hyd a siâp y nodau unigol, gan roi arweiniad cerddorol clir i ddisgyblion wrth iddyn nhw ddysgu eu darnau.
Gall athrawon ddefnyddio’r traciau yn ystod ymarferion yn yr ysgol, a gall disgyblion hefyd eu defnyddio i gefnogi ymarfer annibynnol gartref drwy ardal ddisgyblion Yumu Charanga Cymru.
Ac nid perfformio’n unig sy’n cael sylw.
Gall pobl ifanc sy’n cystadlu yng nghategorïau Cyfansoddi Cerddoriaeth hefyd ddefnyddio YuStudio, y weithfan sain ddigidol sydd ar gael drwy Charanga Cymru, i ddatblygu a chreu eu cynigion.
Helpu mwy o bobl ifanc i gymryd rhan
Mae’r adnoddau’n rhan o’r bartneriaeth barhaus rhwng yr Urdd, Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru a Charanga, gan helpu ysgolion a phobl ifanc ledled Cymru i baratoi ar gyfer un o uchafbwyntiau’r calendr diwylliannol Cymreig.
Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru:
“Mae’r bartneriaeth yn hynod bwysig i ni wrth i ni weithio i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y celfyddydau a chystadlu yn yr Eisteddfod. Gallwch ddod o hyd i draciau cyfeiliant ac alawon ar gyfer darnau gosod yr Urdd eleni.
“Mae adnoddau i gefnogi ymarfer ar gael ar Charanga yn rhad ac am ddim, ond cofiwch ymweld â’ch siop lyfrau leol i brynu copïau o’r darnau, lle gallwch ddod o hyd i’r geiriau a’r gerddoriaeth lawn, a chefnogi’r diwydiant cyhoeddi cerddoriaeth Gymraeg.
“Ewch amdani, ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd!”
Ychwanegodd Mari Lloyd Pritchard, Cydlynydd Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru:
“Mae mynediad cyfartal at addysg gerddoriaeth wrth galon y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol. Rydym yn falch o adeiladu ar ein partneriaeth gyda’r Urdd drwy ddarparu mynediad am ddim at y platfform digidol cyffrous hwn, gan gynnig cefnogaeth i filoedd o blant a phobl ifanc mewn cymunedau ledled Cymru.
“Yr un mor bwysig, mae Charanga Cymru yn adnodd dwyieithog pwrpasol sy’n creu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc brofi, mwynhau a chymryd rhan mewn cerddoriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Barod i ddechrau ymarfer?
Os yw eich ysgol eisoes yn defnyddio Charanga Cymru, mewngofnodwch drwy wefan y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol a dewiswch dab Eisteddfod yr Urdd i ddod o hyd i adnoddau 2027.
Ddim wedi cofrestru eto? Gall ysgolion gofrestru i gael mynediad am ddim at Charanga Cymru drwy wefan y gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol.