Dathlu’r deg: Pobl ifanc Cymru ac Iwerddon yn dathlu degfed cyd-gynhyrchiad rhwng yr Urdd a TG Lurgan

Aelodau o’r Urdd a TG Lurgan yn ymarfer

Y ddau fudiad ieuenctid yn dathlu dod at ei gilydd am y degfed tro gyda pherfformiad mewn cyngerdd yn Connemara heno (21 Awst 2026).

Y cydweithio’n parhau gyda dehongliad Cymraeg a Gwyddeleg o’r gân boblogaidd Yellow gan Coldplay.

Dros miliwn wedi ffrydio cynnwys Urdd x TG Lurgan hyd yma.

Mae aelodau o’r Urdd a’r prosiect ieuenctid Gwyddelig TG Lurgan wedi dod at ei gilydd unwaith eto i chwalu ffiniau ieithyddol a pharhau i feithrin perthynas rhwng y ddwy gymuned.

Yr wythnos hon, mae tua 400 o bobl ifanc TG Lurgan a 30 o aelodau’r Urdd wedi mynychu cwrs perswyl, Coláiste Lurgan, yn Connemara. Heno (nos Wener, 21 Awst) cynhelir Féile (cyngerdd) er mwyn rhoi cyfle i’r bobl ifanc berfformio caneuon poblogaidd yn Gymraeg a Gwyddeleg, yn ogystal â chaneuon gwreiddiol. Bydd y gyngerdd yn cynnwys perfformiadau gan fandiau proffesiynol ynghyd â chyn aelodau TG Lurgan.

Lansiwyd y bartneriaeth rhwng yr Urdd a TG Lurgan wythnosau’n unig cyn cyfnod clo Covid-19. Ym mis Ionawr 2021, daethant at ei gilydd yn rhithiol er mwyn creu’r fideo cerddoriaeth Cymraeg a Gwyddeleg cyntaf erioed, ‘Golau’n Dallu / Dallta ag na Soilse’, sef addasiad o’r gân boblogaidd ‘Blinding Lights’ gan The Weeknd. Ffrydiwyd y fideo honno dros 100,000 o weithiau o fewn mis o’i ryddhau.

Erbyn heddiw mae eu cyd-gynyrchiadau wedi denu dros filiwn o wylwyr ar draws gwasanaethau ffrydio fideo a cherddoriaeth. Mae ymweliad aelodau o’r Urdd â Connemara yr wythnos hon yn dathlu degfed gwersyll preswyl y ddau fudiad ieuenctid gyda’i gilydd, gyda’r nod o recordio fideo gerddoriaeth o gân boblogaidd Coldplay, Yellow, yn y Gymraeg a’r Wyddeleg.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth;

“Iwerddon oedd cyrchfan fy ymweliad tramor cyntaf fel Prif Weinidog, gan adlewyrchu pwysigrwydd y berthynas rhwng ein dwy genedl Geltaidd a’r cysylltiadau dwfn rydyn ni’n eu rhannu drwy ein hieithoedd, ein diwylliannau a’n hanes.

“Mae’r bartneriaeth hon rhwng yr Urdd a TG Lurgan yn enghraifft wych o’r berthynas honno ar waith. Drwy ddod â phobl ifanc ynghyd trwy gerddoriaeth, y Gymraeg a’r Wyddeleg, mae’n helpu i feithrin cyfeillgarwch, dathlu ein treftadaeth gyffredin ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i gadw ein hieithoedd a’n diwylliannau’n fyw ac yn ffynnu. Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod yn rhan o gyrraedd y degfed cydweithrediad hwn, ac edrychaf ymlaen at weld y bartneriaeth yn parhau i fynd o nerth i nerth.”

Meddai Ceren Roberts, Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol, Urdd Gobaith Cymru:

“Mae’r bartneriaeth rhwng yr Urdd a TG Lurgan yn enghraifft o sut y gall prosiectau dan arweiniad pobl ifanc ffynnu, datblygu a chyfrannu’n uniongyrchol at ddiplomyddiaeth ddiwylliannol. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r fenter hon wedi creu cyfleoedd unigryw i bobl ifanc o Gymru ac Iwerddon gydweithio, gan ymgysylltu’n uniongyrchol â dros 1,000 o gyfranogwyr Cymraeg a Gwyddeleg eu hiaith.

“Drwy brosiectau creadigol, cyfnewidiadau diwylliannol a chynyrchiadau digidol, mae’r bartneriaeth wedi hyrwyddo statws ieithoedd lleiafrifol, cryfhau cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon, a chyrraedd cynulleidfaoedd byd-eang. Mae’r Urdd yn parhau’n ymrwymedig i ddatblygu’r bartneriaeth â TG Lurgan a chefnogi Datganiad ar y Cyd Llywodraeth Cymru ac Iwerddon, gan sicrhau bod pobl ifanc yn parhau wrth galon cydweithredu diwylliannol ac ieithyddol a chreu cyfleoedd iddynt arwain mewn cyd-destun rhyngwladol.”

Wrth sôn am y cydweithio cerddorol, meddai Mícheál Ó Foighil, Cyfarwyddwr TG Lurgan:

“Mae ein partneriaeth gyda’r Urdd yn dangos grym creadigrwydd a chyfnewid ieithyddol i ysbrydoli pobl ifanc. Trwy greu cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg a’r Wyddeleg mewn ffordd naturiol, gymdeithasol a chreadigol, mae’r cydweithio’n adeiladu hyder, yn meithrin cyfeillgarwch ac yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng y ddwy iaith. Mae profiad TG Lurgan yn dangos mai darparu’r gofod a’r cyfleoedd cywir i bobl ifanc yw’r allwedd, gan mai eu hegni, eu creadigrwydd a’u hawydd i gysylltu â’i gilydd sy’n gyfrifol am yrru’r llwyddiant.”

Mae aelodau’r Urdd yn ymweld â Connemara rhwng 18 a 22 Awst 2026 a’r gyngerdd yn cael ei chynnal heno (Gwener, 21 Awst). Mae’r Urdd a TG Lurgan wedi rhyddhau 9 cyd-gynhyrchiad hyd yma: 

1. Golau’n Dallu / Dalltaag na Soilse (Ionawr 2021)  

2. Gwenwyn / Nimhneach (Ebrill 2021) 

3. Dŵr Dan Bont / Uisce Faoin Droichead (Mehefin 2023) 

4. Gwalia / A Bhanba, O Gymru (Ebrill 2023) 

5. Human (Ebrill 2023) 

6. Heno’n Ifanc / Muid Fós Óg (Awst 2023) 

7. Texas Hold ‘Em (Mehefin 2024)  

8. Dog Days are Over (Awst 2024) 

9. Dreams (Awst 2025)