Profiadau celfyddydol newydd drwy’r Gymraeg

Mae grwpiau o bobl ifanc o bob cwr o Gymru wedi bod yn cydweithio ag artistiaid a cherddorion i greu perfformiadau neu weithiau celf newydd a chyffrous.

Mae Eisteddfod yr Urdd wedi arwain ar brosiect celf a cherddoriaeth creadigol dan arweiniad yr artist Aur Bleddyn, sydd wedi dod â disgyblion ysgolion cynradd ynghyd i greu cyfres unigryw o “furiau cerddoriaeth” o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu.

Bu plant o Ysgol Glantwymyn, Ysgol Cerrigydrudion, Ysgol Henry Richard ac Ysgol Llanfairpwll yn cydweithio ar y prosiect, gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailddefnyddio i adeiladu gosodiadau rhyngweithiol sy’n cyfuno celf, sain a chynaliadwyedd.

Bwriad y prosiect oedd annog creadigrwydd, ymwybyddiaeth amgylcheddol a gwaith tîm ymhlith y disgyblion, wrth roi cyfle iddynt archwilio sain a cherddoriaeth mewn ffordd newydd a chreadigol.

Cafodd y prosiect ei ariannu drwy nawdd gan ButeEnergy a CultureStep, Arts & Business.Cafodd y muriau cerddoriaeth eu harddangos yn yGarddorfa yn ystod Eisteddfod yr Urdd 2026, a gynhaliwyd yn Ynys Môn rhwng 23 a 29 Mai.

Dywedodd Aur Bleddyn:“Mae wedi bod yn brofiad arbennig gweld y plant yn defnyddio eu dychymyg i drawsnewid deunyddiau bob dydd yn weithiau celf sy’n gwneud sain ac yn dod â phobl ynghyd. Mae’r prosiect yn dathlu creadigrwydd, cymuned a gofal dros yr amgylchedd.”

Dywedodd Catryn Newton, Cyfarwyddwr Buddsoddiad Cymunedol a Chyfathrebu ButeEnergy: “Rydym yn falch o bartneru gyda’r Urdd am y trydydd tro ar brosiect sy’n dod â chreadigrwydd, cynaliadwyedd a’r Gymraeg ynghyd. Mae cefnogi diwylliant a threftadaeth Cymru yn ganolog i’n dull Buddsoddi Cymunedol, gan sicrhau bod ein datblygiadau ynni adnewyddadwy yn darparu buddion parhaol i gymunedau. Edrychwn ymlaen at ymweld â’r Garddorfayn ei chyfanrwydd ar y Maes ym Môn.”

Fel noddwr Gerddi y Garddorfa, bu staff ButeEnergy yn helpu i blannu blodau yn y Garddorfaar y Maes wrth i baratoadau barhau ar y Maes. Ychwanegodd yr arddangosfa elfen ryngweithiol a lliwgar i brofiad ymwelwyr yr Eisteddfod eleni.

Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd: “Mae’r nawdd yma wedi’n galluogi i roi profiadau celfyddydol a chreadigol i dros 100 o blant trwy Gymru. Cafodd y gwaith celf yma ei edmygu gan filoedd o ymwelwyr eleniyn ein hardal ecogyfeillgar ar y maes, Garddorfa, a bydd yn parhau am flynyddoedd i ddod.”

Eleni am y tro cyntaf, bydd Eisteddfod yr Urdd a Chymdeithas Eisteddfodau Cymru yn cyd-weithio ar gynllun mentora newydd i feithrin arweinwyr, beirniaid a hyfforddwyr y dyfodol.

Bydd cystadleuwyr buddugol yn y categori oedran 19-25, Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 yn cael eu gwahodd i ddiwrnod o hyfforddiant er mwyn dysgu mwy am y sgil o gadw llwyfan i redeg yn llyfn fel arweinydd, beth i edrych amdano fel beirniaid ac arfer da er mwyn hyfforddi sêr y dyfodol. Bydd cyfle hefyd i unigolion eraill dros 18 oed ymgeisio am bum lle pellach ar y cynllun.

Y tri fydd yn arwain y diwrnod hyfforddi yn Aberystwyth yn yr hydref fydd Anni Llŷn, Huw Foulkes a Gavin Ashcroft, sy’n brofiadol iawn yn y tair elfen o’r cynllun mentora.

Yn dilyn y diwrnod gydag Anni, Huw a Gavin, bydd y criw ifanc yn bwrw eu prentisiaeth mewn eisteddfodau lleol o amgylch Cymru, cyn symud ymlaen i gysgodi arweinydd, beirniaid neu hyfforddwr profiadol yn eisteddfodau cylch yr Urdd.

Cafodd Cwiar na Nog ei lansio yn ddiweddar ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Sir Gaerfyrddin. Mae Cwiar na Nog yn gymuned LHDTC+ ar gyfer aelodau’r Urdd.

Wrth fod yn rhan o Cwiar na Nog, bydd cyfle i ti gymdeithasu, rhannu syniadau ac ymuno gyda ni mewn digwyddiadau fel Pride Cymru gydag unigolion eraill sy’n rhan o’r gymuned LHDTC+. Fel mudiad, rydym yn awyddus i glywed dy lais di ac i gyrraedd ein nod o Urdd i Bawb.

Roedden ni’n falch iawn o ardal Cwiar na Nog ar y Maes eleni. Roedd yr ardal yn ofod diogel i blant a phobl ifanc gymdeithasu a rhwydweithio, a dysgu mwy am eu hunaniaeth drwy’r iaith Gymraeg. Roedd gweithdai a digwyddiadau yno drwy’r wythnos, bathodynnau rhagenwau ar gael i’w prynu, ac artistiaid cwiar hefyd yn rhan flaenllaw o lein-yp Gŵyl Triban!

Wyt ti eisiau bod yn rhan o’n cymuned LHDTC+, Cwiar na Nog? Bydden ni wrth ein boddau yn clywed dy lais di, ac i ti fod yn rhan o’r prosiect.

Ers 2021, gyda chefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Eisteddfod yr Urdd wedi bod yn creu perfformiadau newydd gan gyfuno diwylliant Cymraeg gyda chelfyddydau o gymunedau wedi eu tangynrychioli yng Nghymru.