Hanes cân Mistar Urdd

Cyfansoddwyd y gân eiconig gan Geraint Davies, aelod o Hergest a Mynediad am Ddim yn 1977. Tarodd y cywair cywir gan gyfansoddi alaw afaelgar a geiriau cofiadwy.

Recordiwyd y gân gan y ddau athro gweithgar Gwyn Williams ac EirwynJ ôs gyda Emyr Wyn yn canu. Daeth Gwyn ac Eirwyn â chriw o ddisgyblion Ysgol Brynteg, Pen-y-Bont ar Ogwrs a Ysgol Pontygwaith yn y Rhondda i ganu côr i forio’r cytgan ar y trac.

Serennodd Mistar Urdd ar sawl record arall wedi hynny, ond Hei Mistar Urdd yw’r gân sydd wedi pontio sawl degawd, gyda fersiynau newydd wedi’u recordio gan y grŵp CIC, y cymeriad Rapsgaliwn a’r cerddor Mei Gwynedd.