Mwy na newid lleoliad

Dewch â’ch pobl ynghyd yn un o leoliadau unigryw’r Urdd ledled Cymru. O sesiynau cynllunio pwrpasol a heriau tîm, i weithgareddau awyr agored a phrofiadau lles, byddwn yn eich helpu i greu diwrnod i ffwrdd â phwrpas clir.

Dewiswch raglen hanner diwrnod, diwrnod llawn neu arhosiad preswyl wedi’i llunio i weddu i’ch tîm. Mae mannau cyfarfod, arlwyo a llety ar gael mewn gwersylloedd dethol.

Caerdydd

Wedi’i lleoli ym Mae Caerdydd, mae canolfan yr Urdd yn y ddinas yn lleoliad cyfleus ar gyfer cyfarfodydd, diwrnodau hyfforddi, cynadleddau a digwyddiadau tîm.

Pecynnau corfforaethol yng Ngwersyll Caerdydd

Glan-llyn

Wedi’i leoli ar lan Llyn Tegid ym Mharc Cenedlaethol Eryri, mae Glan-llyn yn cyfuno cyfleusterau cyfarfod â phrofiadau awyr agored cofiadwy.

Pecynnau corfforaethol Glan-llyn

Pentre Ifan

Gyda’r arfordir, y coetiroedd a Bryniau’r Preseli o’i amgylch yng ngogledd Sir Benfro, mae Pentre Ifan yn cynnig lleoliad tawelach lle gall timau gymryd saib ac ailgysylltu.

Pecynnau corfforaethol Pentre Ifan

Cynllunio’ch diwrnod tîm nesaf

Dywedwch wrthym beth hoffech i’r diwrnod ei gyflawni, eich hoff leoliad, maint bras y grŵp a’r dyddiadau posibl.

Bydd ein tîm yn eich helpu i ddewis y cyfuniad cywir o weithgareddau, amser cyfarfod, arlwyo a llety.