Cylchgronau

Erbyn y 90egau roedd gan yr Urdd dri chylchgrawn poblogaidd oedd yn cael eu gwerthu i blant ar hyd ac ar led Cymru. Mae Cip yn cynnwys clecs, erthyglau, posteri, cystadlaethau, posau i siaradwyr Cymraeg dan 12 oed, Bore Da ar gyfer dysgwyr Cymraeg mewn ysgolion cynradd yng nghyfnod allweddol 1 a 2 o’r Cwricwlwm a iaw! ar gyfer dysgwyr uwchradd.

Daw taflen athrawon gyda Bore Da ac iaw! i hybu eu defnydd yn y dosbarth hefyd. Cynhyrchir deg rhifyn o Cip, Bore Da ac iaw! yn flynyddol. Yn 1995 penodwyd dylunydd i weithio ar y cylchgronau a gwnaeth hyn lawer i newid diwyg a delwedd y cylchgronau a’u gwneud yn fwy atyniadol i blant heddiw. Trefnir pob math o weithgareddau i ymwneud â’r cylchgronau, a theithiau o amgylch ysgolion. Cyhoeddwyd dau Lyfr Jôcs Cipyn Caws, sef llyfr o jôcs gan ddarllenwyr Cip.

 

Canolfannau preswyl

Yng Nglan-llyn yn 1995 agorwyd y Plas gyda phob math o ddarpariaeth newydd, fodern ar gyfer y gwersyllwyr. Agorwyd y lle yn swyddogol gan Bryn Terfel ac yr oedd yn cynnwys ystafelloedd en-suite, lolfeydd a darlithfeydd. Dros y blynyddoedd dilynol, gweddnewidiwyd y neuadd llafn-rolio, y pwll nofio a’r neuadd chwaraeon, a daeth staff a oedd yn arbenigo mewn gweithgareddau awyr-agored fel dringo, cerdded afon, rafftio dŵr gwyn i Lan-llyn. Bu Radio Cymru yn cynnal disgos yn y gwersyll a thrawsnewidiwyd y neuadd ddisgo gyda goleuadau a chyfarpar newydd i roi’r profiad gorau posib i’r gwersyllwyr.

Yr un mor gyffrous oedd y datblygiadau yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog. Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mro’r Preseli ym 1995 bu teuluoedd a chystadleuwyr yn aros yn y gwersyll, yn ogystal â chystadleuwyr Rasys Traws Gwlad y Gwledydd Celtaidd. O hynny ymlaen dechreuodd y Gwyliau Teulu ddod yn fwy poblogaidd, a deuai teuluoedd o bob oed i aros yn y gwersyll i gymdeithasu ac i fwynhau’r gweithgareddau amrywiol. Yr oedd y gweithgareddau yn newid ac yn datblygu hefyd. Ar ddiwedd y 90au daeth cwrs rhaffau, gwibgerti yn lle beiciau ffordd, a gweddnewidiwyd y neuadd llafnrolio.

Yn 1995, crëwyd cysylltiad agos ag Unicef wrth ddathlu hanner-canmlwyddiant y Cenhedloedd Unedig. Canolbwyntiwyd ar Mali yng Ngogledd Affrica a chodwyd £10,000 i hybu gwaith Unicef yno. Mae Sul yr Urdd yn parhau hyd heddiw yn ogystal. Mae ysgol neu griw o bobl ifanc o ardal wahanol bob blwyddyn yn cyhoeddi Neges Ewyllys Da.

Datblygiadau

Roedd datblygiadau a thechnoleg fodern yn galluogi Eisteddfod yr Urdd i roi profiadau bythgofiadwy i’r miloedd sy’n cystadlu ac yn ymweld â’r maes yn flynyddol. Bu cynnydd yn y sefydliadau a’r cwmnïau sy’n cael eu cynrychioli ar y maes. Mentrodd yr Eisteddfod i bob cwr o Gymru er mwyn hybu Cymreictod, ac i ddenu plant a phobl ifanc o bob cefndir i gystadlu ac i fwynhau’r gweithgareddau. Eisteddfod Sir Islwyn ym 1997 oedd y tro cyntaf i’r Eisteddfod ymweld â’r hen sir Gwent.

Roedd darpariaeth chwaraeon yr Urdd yn mynd o nerth i nerth. Yn 1997 cymrodd dros 10,000 ran yn Chwaraeon yr Urdd gyda Gŵyl Chwaraeon Cenedlaethol, dwy Gala Nofio, a dwy Ŵyl Athletau. Dechreuwyd cydweithio gyda Chyngor Chwaraeon Cymru yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1999

Torrwyd tir newydd yn Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan hefyd pan gynhyrchwyd ffilm yn hytrach na sioe gerdd gan ieuenctid y fro. Tyfodd y nifer o ymwelwyr a oedd yn dod i faes yr Eisteddfod i dros 100,000 ar sawl achlysur a chaed atyniadau poblogaidd ar y maes megis gigs gan grwpiau fel Big Leaves, Eden, Diffiniad, a’r Super Furry Animals..

Casgliad

Wrth i’r niferoedd a oedd yn mynychu Glan-llyn gynyddu o hyd, yn enwedig y gwersyllwyr hyn, aethpwyd ati i drefnu bod Canolfan Groeso a oedd yn cynnwys derbynfa, swyddfeydd newydd, theatr ddarlithio, ac ystafelloedd cysgu yn cael eu hadeiladu. Ailwampiwyd y Ganolfan Bowlio 10 gyda pheiriannau a sgriniau newydd, a pha ffordd well o ddangos y ddarpariaeth wych i’r byd na chael cyfres ‘pry ar y wal’ yn ffilmio popeth a oedd yn mynd ymlaen yn y Gwersyll? Agorwyd y Ganolfan Groeso newydd yn 2003 ac yn yr un flwyddyn penodwyd Swyddog Iaith, a chynhaliwyd cyrsiau sgiliau allweddol i ddisgyblion ysgolion uwchradd. Y datblygiad diweddaraf cyffrous yn y Gwersyll yw’r Cwrs Rhaffau uchel sydd wrth fodd y gwersyllwyr a’r staff! Mae cynlluniau ar y gweill i greu llwybrau beiciau a llwybrau troed diogel o’r Gwersyll i Lanuwchllyn.

Datblygiad mawr yn 2004 oedd Gwersyll yr Urdd Caerdydd. Mae’r Gwersyll newydd wedi ei leoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd. Mae lle i 150 i gysgu yno mewn ystafelloedd en suite ac mae yno theatr, lolfa, dwy ystafell ddosbarth, neuadd fwyta, a swyddfeydd i staff. Agorwyd y Gwersyll yn Nhachwedd 2004. Mae’r Gwersyll yn cynnig profiadau celfyddydol unigryw a chyfle i aelodau’r Urdd ymweld â holl atyniadau prifddinas Cymru – Stadiwm y Mileniwm, y Cynulliad, Techniquest, Sain Ffagan, Pwll Mawr, Castell Coch, Castell Caerdydd a mwy… mynd i weld sioe, gêm bêl-droed, criced, rygbi, hoci iâ neu fynd i weld ffilm neu i fowlio 10.

Yn 2005, am y tro cyntaf daeth yr Eisteddfod i Ganolfan Mileniwm Cymru a llwyfannwyd sioe Les Miserables gan Gwmni Theatr Ieuenctid Genedlaethol Cymru. Ers hynny mae Cwmni Theatr yr Urdd wedi cael ei ailsefydlu ac yn mynd o nerth i nerth.

Mae’r Urdd yn rhan o gynllun Bardd Plant Cymru, gyda S4C, Cyngor Llyfrau Cymru a’r Academi yn bartneriaid. Mae beirdd adnabyddus fel Mei Mac, Ceri Wyn Jones, Tudur Dylan Jones a Mererid Hopwood wedi gwisgo mantell Bardd Plant Cymru, ac yn 2006-2007 penodwyd y Bardd Plant ieuengaf erioed, Gwyneth Glyn. Bwriad y cynllun yw hybu barddoniaeth Gymraeg ymysg ein hieuenctid, a hynny’n bennaf drwy gyfrwng ymweliadau a gweithdai.

Baner Glas yr Urdd yn chwifio o flaen Canolfan y Mileniwm

Amdanom ni

Dysgu mwy am yr Urdd a phwy ydym ni