Ymddiriedolwyr a Llywyddion Anrhydeddus
Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd
Mae’r Urdd yn elusen sy’n cael ei llywodraethu gan Fwrdd Ymddiriedolwyr. Y Bwrdd Ymddiriedolwyr sydd â’r cyfrifoldeb a’r atebolrwydd cyffredinol dros bob agwedd ar waith yr elusen.
Rydym yn gwerthfawrogi arbenigedd ein hymddiriedolwyr. Mae pob un ohonynt yn wirfoddolwyr, ac maent yn defnyddio eu sgiliau a’u profiad i gefnogi staff yr Urdd i gyflawni strategaeth ac amcanion y mudiad.
Ar Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd, mae dau le wedi’i neilltuo ar gyfer pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed. Mae pob ymddiriedolwr yn gwasanaethu am gyfnod cychwynnol o dair blynedd, gyda’r posibilrwydd o gael eu hail-ethol am gyfnod pellach wedi hynny.
Mae ymddiriedolwyr yr Urdd fel arfer yn cwrdd yn ffurfiol hyd at bum gwaith y flwyddyn i adolygu gwaith yr elusen a gwneud penderfyniadau strategol pwysig.
Mae strwythur llywodraethu’r Urdd yn cynnwys chwe bwrdd strategol sy’n adrodd yn ôl i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Cyfle cyffrous!
Ni’n recriwtio pedwar Ymddiriedolwr newydd, ac mae un lle wedi’i neilltuo i unigolyn 18-25 oed.
Ymddiriedolwyr
Nia Bennet
Cadeirydd ac Ymddiriedolwr
Aled Walters
Cyd Is-Gadeirydd ac Ymddiriedolwr
Mari Emlyn
Cyd Is-Gadeirydd ac Ymddiriedolwr
Gemma Cutter
Ymddiriedolwr
Delyth Evans
Ymddiriedolwr
Llywelyn ap Gwilym
Ymddiriedolwr
Arwel Gruffydd
Ymddiriedolwr
Gwennan Oakes
Ymddiriedolwr
Jim O’Rourke
Ymddiriedolwr
Deio Siôn Llewelyn Owen
Ymddiriedolwr Ifanc
Emily Pemberton
Ymddiriedolwr Ifanc
Llywyddion Anrhydeddus
Sion Edwards
Llywydd Anrhydeddus
Wynne Melville Jones
Llywydd Anrhydeddus
Rhiannon Lewis
Llywydd Anrhydeddus