Taith yr Urdd i Japan 2025

Yn Rhagfyr 2025 teithiodd wyth o aelodau’r Urdd—enillwyr prif wobrau Eisteddfod yr Urdd—i Tokyo a Sapporo fel rhan o Brosiect Plethu rhwng Cymru a’r Ainu. Yn ystod y daith bu’r grŵp yn cydweithio â myfyrwyr Prifysgol Sapporo, gan gymryd rhan mewn gweithdai a pherfformiadau a oedd yn plethu celfyddyd Gymreig â chelfyddyd yr Ainu. 

Ymwelwyd â Hokkaido a Tokyo, gan gynnig profiadau diwylliannol cyfoethog a chyfleoedd creadigol newydd i’r bobl ifanc. Roedd y prosiect yn gam pwysig wrth gryfhau’r berthynas ddiwylliannol rhwng Cymru a’r Ainu gan agor drysau i bartneriaethau rhyngwladol pellach. 

Diolch i Lywodraeth Cymru am ariannu’r prosiect gwerthfawr hwn.