Helpwch lunio dyfodol yr Urdd

Rydym yn chwilio am bedwar unigolyn i ymuno â Fwrdd yr Urdd, gan gynnwys un lle sydd wedi’i neilltuo i unigolyn 18-25 oed.

Bydd yr ymgeiswyr a ddewisir yn cael eu cyflwyno i’w cymeradwyo yng Nghyfarfod Cyffredinol yr Urdd ar 30 Tachwedd 2026.

Amserlen y broses ymgeisio

Ffurflen gais

Cwblhewch y ffurflen gais erbyn dydd Llun, 19 Hydref 2026

Llunio rhestr fer

a gwahodd ymgeiswyr i sgwrs cychwynnol

Cymeradwyo

yn Cyfarfod Cyffredinol Urdd Gobaith Cymru: 30 Tachwedd 2026

Neges gan y Cadeirydd

Mae’r Urdd yn chwarae rhan unigryw ym mywydau plant a phobl ifanc ledled Cymru, ac mae hwn yn gyfle i helpu i lunio pennod nesaf ein stori.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd â safbwyntiau, profiadau a sgiliau amrywiol, ac sy’n gallu cyfrannu’n adeiladol at lywodraethiant a datblygiad strategol y mudiad.

Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol pobl ifanc a’r Gymraeg drwy gyfrannu at waith un o fudiadau mwyaf Cymru.

Fel mudiad ieuenctid cenedlaethol, credaf ei bod yn hanfodol bod pobl ifanc yn cael llais wrth wneud penderfyniadau am eu dyfodol. Dyna pam mae un o’r pedwar lle wedi’i neilltuo i unigolyn 18-25 oed. Bydd y rôl hon yn sicrhau bod safbwyntiau a phrofiadau pobl ifanc yn parhau i fod wrth galon gwaith a llywodraethiant yr Urdd.

Edrychaf ymlaen at dderbyn eich cais.

Nia Bennett
Cadeirydd, Urdd Gobaith Cymru

Pam ymuno â’r Bwrdd?

Mae’r Urdd yn un o fudiadau mwyaf a mwyaf dylanwadol Cymru, gan weithio gyda phlant a phobl ifanc drwy waith ieuenctid, chwaraeon, y celfyddydau, prentisiaethau, gwersylloedd, gwirfoddoli a gweithgareddau rhyngwladol.

Gyda dros 300 o staff a channoedd o weithwyr achlysurol a hyd at 10,000 o wirfoddolwyr, mae’r Urdd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc ledled Cymru bob dydd.

Fel Ymddiriedolwr, byddwch yn helpu i lywio cyfeiriad strategol yr Urdd, goruchwylio risg ac adnoddau, a sicrhau bod y mudiad yn cyflawni ei ddibenion elusennol a’i uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.

  • Helpu i lunio cyfeiriad strategol yr Urdd.
  • Sicrhau llywodraethiant cryf a goruchwylio risg, cyllid a diogelu.
  • Cefnogi a herio’r Prif Weithredwr a’r uwch dîm yn adeiladol.
  • Cyfrannu barn annibynnol a gwneud penderfyniadau er lles gorau’r mudiad.
  • Gweithredu fel llysgennad dros yr Urdd a’i gwerthoedd.

Bydd Ymddiriedolwyr yn cyfrannu at waith Byrddau Strategol yr Urdd ac, lle bo’n briodol, yn arwain neu’n cadeirio eu gwaith. Nid arbenigedd technegol yw’r prif ofyniad wrth gadeirio Bwrdd Strategol, ond y gallu i arwain trafodaethau, hwyluso consensws a helpu i wneud penderfyniadau da.

Rydym yn chwilio am unigolion sydd â’r gallu, neu yn achos yr ymgeisydd 18-25 oed, y potensial i:

  • Rhannu gwerthoedd yr Urdd a’n hymrwymiad i blant, pobl ifanc a’r Gymraeg.
  • Meddwl yn strategol a gweld y darlun ehangach.
  • Dadansoddi gwybodaeth, gofyn cwestiynau da ac asesu risgiau a chyfleoedd.
  • Gwneud penderfyniadau cadarn a chytbwys.
  • Herio a chefnogi’n adeiladol, gan wrando ar safbwyntiau gwahanol.
  • Gweithio’n effeithiol fel rhan o Fwrdd ac ymrwymo i gyfrannu at ei waith.
  • Arwain neu gyfrannu’n effeithiol at drafodaethau.
  • Deall y gwahaniaeth rhwng llywodraethu a rheolaeth weithredol.

Rydym yn awyddus i greu Bwrdd sy’n cynnwys amrywiaeth o sgiliau, profiadau a safbwyntiau. Felly, bydd profiad mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol yn arbennig o werthfawr:

  • Cyfreithiol a Llywodraethu – cyfraith, rheoleiddio, llywodraethu elusennol neu gorfforaethol.
  • Cysylltiadau a Materion Cyhoeddus – polisi, cyfathrebu strategol, ymgysylltu â rhanddeiliaid a rheoli enw da.
  • Cynhwysiant, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth – hyrwyddo gwasanaethau a phenderfyniadau sy’n adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Cymru.
  • Plant a Phobl Ifanc – profiad neu ddealltwriaeth o anghenion, hawliau a datblygiad plant a phobl ifanc.

Byddai profiad o arwain, hwyluso neu gadeirio yn fantais, ond rydym yr un mor awyddus i glywed gan bobl sydd â’r potensial i ddatblygu’r sgiliau hyn.

Mae un o’r pedwar lle wedi’i neilltuo i unigolyn 18-25 oed, gan sicrhau bod llais a phrofiadau pobl ifanc yn rhan ganolog o waith y Bwrdd.

Nid oes angen profiad blaenorol fel Ymddiriedolwr. Rydym yn chwilio am rywun sydd â diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth, sy’n awyddus i gyfrannu syniadau, gofyn cwestiynau a datblygu fel arweinydd.

Byddwn yn darparu:

  • Anwythiad a chefnogaeth lawn i’r rôl.
  • Cyfleoedd i ddatblygu sgiliau arwain a llywodraethu.
  • Profiad gwerthfawr ar Fwrdd un o fudiadau mwyaf Cymru.
  • Cefnogaeth barhaus i feithrin hyder a chyfrannu’n effeithiol.

Eich hymrwymiad

Bydd disgwyl i chi ymrwymo amser i’r rôl fel a ganlyn:

5 cyfarfod y flwyddyn:

  • 4 cyfarfod ar-lein (2 awr, 17:00-19:00)
  • 1 cyfarfod wyneb yn wyneb (hanner diwrnod)

Cyfle achlysurol i gyfrannu at ddiwrnod strategol ychwanegol.

Hyd tymor: 3 blynedd

  • Aelodaeth neu gadeirio un Bwrdd Strategol yn ôl yr angen
  • Hyd at 4 cyfarfod y flwyddyn.

  • Darllen papurau a pharatoi ar gyfer trafodaethau a phenderfyniadau.
  • Anwythiad, hyfforddiant a chyfleoedd datblygu parhaus.

  • Defnyddio eich profiad a’ch rhwydweithiau i hyrwyddo gwaith ac effaith yr Urdd.
  • Cynrychioli’r mudiad mewn digwyddiadau a chyfleoedd perthnasol o bryd i’w gilydd.

Cynhelir gwaith y Bwrdd drwy gyfrwng y Gymraeg, felly bydd angen gallu cyfrannu’n hyderus at drafodaethau’r Bwrdd yn Gymraeg.

Bydd Cadeirydd presennol Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd yn cwblhau ei thymor yn 2027, a bydd proses ar wahân yn cael ei chynnal i benodi Cadeirydd newydd. Byddwn hefyd yn edrych i gryfhau profiad y Bwrdd ym maes Adnoddau Dynol a datblygu pobl yn ystod y cyfnod hwnnw.

Er nad yw’r penodiadau hyn yn rhan o’r broses recriwtio bresennol, rydym yn awyddus i adeiladu Bwrdd sydd â chryfder, dyfnder ac olyniaeth dda ar gyfer y dyfodol.

Sut i ymgeisio?

Rydym am gadw’r broses yn syml. 

Cwblhewch ein ffurflen gais fer ar Microsoft Forms.

Byddwn yn gofyn i chi am: 

  • Pam rydych am ymuno â’r Bwrdd. 
  • Y sgiliau a’r profiad y gallwch eu cynnig. 
  • Enghraifft o sut rydych wedi cyfrannu at benderfyniadau neu feddwl strategol. 

Ymgeiswyr 18-25 oed: Byddwn yn canolbwyntio ar eich potensial, eich safbwyntiau a’r hyn yr hoffech ei ddatblygu, nid ar brofiad blaenorol ar Fwrdd. 

  • Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu yn erbyn anghenion y Bwrdd.
  • Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i sgwrs cychwynnol.
  • Bydd gwiriadau cymhwystra a gwrthdaro buddiannau yn cael eu cynnal.
  • Bydd y penodiadau’n cael eu cyflwyno i Gyfarfod Cyffredinol yr Urdd i’w cymeradwyo.

  • Dyddiad cau:  Dydd Llun, 19 Hydref 2026
  • Cyfweliadau: I’w gadarnhau
  • Cyfarfod Cyffredinol: 30 Tachwedd 2026

Cwestiynau?

Os hoffech drafod y rôl neu os oes angen addasiadau i’r broses recriwtio, cysylltwch â Catrin James, Pennaeth Polisi, Grantiau a Llywodraethu’r Urdd.