Dewch gyda ni!

Cyfle i ddisgyblion Bl. 9-10 i fynd ar wyliau bythgofiadwy gyda’u ffrindiau, a gwneud ffrindiau newydd, ar daith i un o ardaloedd mwyaf poblogaidd Ewrop.

Dyddiadau’r daith: 23-30 Gorffennaf 2027.

Archebu lle heddiw

Gwybodaeth am y daith

Pryd mae’r daith?
23-30 Gorffennaf 2027

Pa mor hir mae’n para?
Wythnos

Beth yw’r pris?

  • £999 ar gyfer aelodau’r Urdd – os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein.
  • Bydd blaendal o £150 wrth archebu, a chynllun talu dros gyfnod o 10 mis, neu fe allwch dalu’n llawn.

Beth sy’n cael ei gynnwys yn y pris?

  • Trafnidiaeth o fannau casglu penodol ar draws Cymru mewn bws 5*
  • Teithio ar long rhwng Dover a Calais
  • Gwesty ‘half-board’ o safon (4*), Tossa De Mar
  • Ymweliad â pharc hamdden Portaventura
  • Ymweliad â Water World, Lloret de Mar
  • Ymweliad â Barcelona, gan gynnwys Nou Camp a La Ramblas a chyfle i siopa!
  • Cyfle i ymlacio drwy dorheulo ar y traeth ac wrth bwll nofio
  • Yswyriant Teithio llawn
  • Staff a gwirfoddolwyr profiadol yn arwain y ffordd
  • Lot fawr o hwyl!

Esiampl o amserlen

  • 9:00am Gadael Cymru. Bydd angen bwyd ar gyfer y daith
  • 3:00pm Fferi yn hwylio o Dover i Calais
  • 6:00pm Bws yn teithio trwy’r nos i lawr i Gatalunya
  • 2:00pm Cyrraedd y gwesty
  • 3:00pm Prynhawn rhydd wrth y pwll nofio ac ar y gwlâu haul.
  • 7:00pm Swper yn y gwesty
  • 7:00am Brecwast
  • 8:00am Gadael am Port Aventura
  • 9:00am Mwynhau un o barciau hamdden fwyaf Ewrop!
  • 7:00am Brecwast
  • 8:00am Ymlacio wrth y pwll nofio a’r traeth!
  • 12:00pm Cyfle i siopa a crwydro strydoedd traddodiadol Catalunya
  • 3:00pm Taith Cwch
  • 7:00am Brecwast
  • 9:00am Ymweld â Barcelona
  • 11:00am Camp Nou, taith bws, La Ramblas a siopa
  • 9:00pm Dychwelyd i’r gwesty.
  • 7:00am Brecwast
  • 9:00am Ymweld â pharc dŵr Water World
  • 12:00pm Pecynnau bwyd yn cael eu darparu
  • 7:00pm Swper yn y gwesty
  • 7:00am Brecwast cyn pacio.
  • 9:00am Cyfle i ymlacio wrth y pwll cyn cychwyn am adre.
  • 4:30pm Gadael y gwesty.
  • 9:00pm Fferi. Cyrraedd Cymru y diwrnod canlynol.

Rhestr pacio

  • Pasbort a cherdyn UKGHIC
  • Arian (ewro a sterling)
  • Clustog a blanced ar gyfer cysgu ar y bws
  • DVDs, llyfrau ac adloniant addas
  • Sbectol haul!

Cwestiynau cyffredin

Bydd angen dod â phasbort cyfredol a cherdyn UKGHIC; bydd staff yr Urdd yn gofalu am y rhain yn ystod y daith. Mae modd gwneud cais am gerdyn UKGHIC yma: www.ehic.org.uk

Bydd rhaid sicrhau fod gofynion mynediad yn unol a rheolau’r swyddfa dramor :https://www.gov.uk/foreign-travel-advice/france/entry-requirements

Rydym yn argymell dod â €130 a £30 ar gyfer bwyd. Mae arian gwario ar bethau eraill (anrhegion, lluniau) i fyny i chi. Ni fydd aelodau staff yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am arian eich plentyn.

Mae yswiriant yn gynwysedig ym mhris y daith.

Wrth archebu mae ffurflen i’w lenwi fewn i nodi pwy ydi’r ffrindiau sydd yn mynychu’r daith; fe fyddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod pawb yn hapus gyda’u ystafelloedd ac efo pwy mae nhw’n rhannu.

Mae’r ystafelloedd yn gymysgedd o ystafelloedd i 3, 4 neu 5 yn ddibynnol ar y gwesty.

Oes!

Cwestiynau pellach?

Mae croeso i chi gysylltu â ni gydag ymholiadau pellach.