Wedi ei brofiadau yn y Rhyfel Mawr a’i brofiad o ddinistr ac oferedd rhyfel, credai Syr Ifan ab Owen Edwards bod angen codi pontydd rhwng diwylliannau a chenhedloedd gwahanol. Dechreuwyd cyhoeddi Neges Ewyllys Da gan Gwilym Davies, Cymro a oedd yn gynrychiolydd ar Gynghrair y Cenhedloedd. Credai Syr Ifan fod angen i’r Urdd ymuno gyda’r fenter o gyhoeddi’r neges er mwyn dileu’r anwybodaeth a’r rhagfarnau a oedd yn bodoli rhwng cenhedloedd y byd. Ym 1925 felly, cyhoeddwyd y neges ar y cyd rhwng yr Urdd a chynghrair y Cenhedloedd. Ym 1930 penderfynwyd gwneud mis Mai yn fis Ewyllys Da a rhoddwyd hwb i’r neges ac i’r syniad yn ‘Cymru’r Plant’. Erbyn 1934 roedd y BBC yn cyhoeddi’r neges a daeth thema wahanol i nodweddu’r neges yn flynyddol. Erbyn 1939 yr oedd Adrannau ledled Cymru yn cyhoeddi’r neges, ac er y bu’n rhaid rhoi’r gorau i gyhoeddi’r neges dros y rhyfel, parhau wnaeth yr ymgyrch dros frawdgarwch gyda chyfres o erthyglau ‘Cymru a’r Byd’ yn cael eu cyhoeddi.
Yr oedd hi’n bwysig i Syr Ifan fod plant Cymru yn cael cyfarfod ag ieuenctid eraill o wledydd ar draws y byd. Ym 1930 aeth ati i drefnu bod parti o fechgyn o Gymru yn mynd i Genefa, cartref Cynghrair y Cenhedloedd. Gyda llwyddiant y daith honno, penderfynodd y sylfaenydd arwain criw o ferched am daith gyffelyb y flwyddyn ganlynol. Aeth yr Urdd ymlaen i drefnu mordeithiau di-ri. Ym 1933 hwyliodd criw o Gymru i Sgandinafia a Fjordiau Norwy, a thalodd cannoedd o aelodau hyn yr Urdd £15 i fynd ar y fordaith gwbl Gymreig ac unigryw hon i Ogledd Ewrop. Penderfynodd Syr Ifan bod angen trefnu mordeithiau mor aml â phosib, ac aeth ati i drefnu teithiau i Lydaw, Sbaen, Portiwgal, Môr y Canoldir a Gogledd Affrica. Daeth y mordeithiau hyn i ben gyda dechrau’r Ail Ryfel Byd ym 1939. O hyn ymlaen canolbwyntiwyd ar deithiau rhatach i niferoedd llai. Ceisiwyd adfer creithiau rhyfel drwy barhau i gyfnewid teithiau ag ieuenctid ledled Ewrop. Wedi’r rhyfel dechreuwyd ailafael yn y cyfle i estyn dwylo dros y môr a chynnal cysylltiadau rhyngwladol. Ym 1948 penderfynwyd cynnal Gwersyll Cydwladol cyntaf yr Urdd yn Aberystwyth. Roedd y gwersyll yn cael ei gynnal yn flynyddol tan 1960 ac yn denu pobl ifanc o bob rhan o’r byd i gymdeithasu, i ddysgu ac i fwynhau gwyliau ar arfordir Cymru. Yr Urdd oedd un o’r mudiadau cyntaf i groesawu Almaenwyr ifanc wedi’r Ail Ryfel Byd.