Chwarae yn Gymraeg 

Darganfyddwch mwy ynglŷn â’n darpariaeth Chwarae yn Gymraeg isod, ac os oes gennych ddiddordeb fel ysgol, plîs cwblhewch y ffurflen diddordeb ar y dudalen yma.

Prosiect wedi ei greu i gefnogi ac annog defnydd yr iaith Gymraeg ar draws yr ysgol – ‘Wedi ei arwain gan blant, a’u mwynhau gan blant’

Bydd 16 o ddisgyblion yn eich ysgol yn derbyn hyfforddiant Chwarae yn Gymraeg gan aelod/au o staff profiadol Adran Chwaraeon yr Urdd yn ystod y diwrnod ysgol arferol er mwyn ddod yn Llysgenhadon Chwarae yn Gymraeg.

Bydd y llysgenhadon Chwarae yn Gymraeg yn derbyn yr holl adnoddau perthnasol er mwyn eu galluogi i arwain sesiynau Chwarae yn Gymraeg yn annibynnol ar iard yr ysgol er mwyn cefnogi ac annog defnydd o’r iaith Gymraeg drwy chwaraeon i blant iau yr ysgol.

  • Gweithdy 4 awr gyda 16 o ddisgyblion o flynyddoedd 5/6
  • 10 set o gardiau gweithgaredd corfforol
  • Set o gonau, pêl, sticeri, tystysgrifau, a bag

  • Cefnogi ac annog defnydd o’r iaith Gymraeg drwy chwaraeon
  • Dysgu mewn ffurf hwylus ac addysgiadol
  • Codi proffil yr iaith Gymraeg ar iard yr ysgol
  • Annog llythrennedd corfforol y tu allan i’r ystafell dosbarth
  • Galluogi disgyblion cymryd perchnogaeth o’u dysgu

Cost Chwarae yn Gymraeg yw £295 fesul ysgol

Chwarae yn Gymraeg yr Urdd yn teithio i Iwerddon

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi teithio i Iwerddon i gynnal gweithdai mewn ysgol yn Belarmine, Dulyn fel rhan o ddathliadau Gŵyl Dewi 2023.

Darllenwch mwy YMA.

Ffurflen mynegi diddordeb

Cwblhewch y ffurflen isod er mwyn mynegi eich diddordeb fel ysgol