Mae Urdd Gobaith Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad bod Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn 2029, sef blwyddyn dathlu canmlwyddiant yr ŵyl.
Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Rydym yn falch iawn o glywed bod aelodau Cabinet Cyngor Sir Ceredigion wedi cytuno’n ffurfiol i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn 2029, ar beth fydd blwyddyn arbennig iawn, sef blwyddyn dathlu canmlwyddiant ein prifwyl.
“Llwyddiant yr Eisteddfod yr Urdd gyntaf yng Nghorwen yn 1929 yw’r sylfaen i’r hyn a welwn heddiw, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at ddychwelyd i Geredigion am y tro cyntaf ers 2010. Ein bwriad yw cynnal cyfarfod cyhoeddus nos Iau, 18 Mehefin er mwyn dechrau ar y gwaith trefnu ar y cyd â gwirfoddolwyr lleol.”
Y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Cheredigion oedd yng Nghiliau Aeron yn 2010, a chyn hynny yn Llanbedr Pont Steffan yn 1999.
Bydd Eisteddfod yr Urdd Bro’r Wenynen, Gwent 2027 yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd a hynny am y tro cyntaf erioed. Ardal Caernarfon yn rhanbarth Eryri fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2028.