Eisteddfod Wrecsam 2025

Cyflawni

Dros y degawdau, mae Mistar Urdd wedi ymddangos ar bopeth o sanau, pyjamas a chasys ffôn i raglenni teledu, digwyddiadau chwaraeon ac Eisteddfodau. Mae wedi teithio i’r gofod, wedi helpu’r Urdd i dorri Record Byd ar achlysur canmlwyddiant y mudiad, wedi cyfarch arlywyddion a phrif weinidogion a bellach yn enw ar drên newydd sbon. Mae’n parhau i fod yn un o gymeriadau mwyaf adnabyddus Cymru, ac yn symbol o groeso cynnes a chynhwysiant i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd. 

Ewch draw i wefan BBC Bitesize i weld Mistar Urdd yn y gofod:

Bitesize – Pwy ydy Mistar Urdd? 

Mistar Urdd yn 50!

Rydym yn cychwyn blwyddyn o ddathlu 50 mlynedd ers geni Mistar Urdd – un o eiconau mwyaf adnabyddus a hoffus Cymru!

Cliciwch yma!