Ein haelodau

Mae rôl ein gwirfoddolwyr yn hanfodol yn strwythur llywodraethu’r Urdd, ac rydym am barhau i dderbyn eu profiad, sgiliau, ac arbenigedd i’n harwain i mewn i’r ganrif nesaf.

Caiff aelodau’r Bwrdd eu penodi am gyfnod o dair blynedd.

  • Caiff aelodau’r Bwrdd eu penodi am gyfnod o dair blynedd.

  • Paratoi ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd.
  • Neilltuo amser i ymgyfarwyddo â gwaith yr Urdd a chynlluniau penodol maes gweithredu’r Bwrdd.
  • Mynychu o leiaf 2 cyfarfod y flwyddyn a Chyfarfod Blynyddol Urdd Gobaith Cymru. (Bydd y mwyafrif o’r cyfarfodydd ar lein gyda chyfarfodydd ‘mewn person‘ yn ôl y galw).
  • Cymryd rhan mewn pwyllgorau / grwpiau Gorchwyl a Gorffen os yn berthnasol.

  • Cefnogi’r Cyfarwyddwr(wyr) i lunio a chymeradwyo gweledigaeth, amcanion a deilliannau strategol hir dymor yr adran(nau).
  • Adolygu, craffu a monitro perfformiad yr adran(nau).
  • Hybu agenda ar gyfer gwelliant parhaus o safbwynt darparu gwasanaethau’r adran.
  • Craffu i annog yr adran(nau) i ddarparu cynnig cynhwysol i blant a phobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau at fynediad hawdd i ddarpariaeth yr Urdd.
  • Rhannu arbenigedd a chyfrannu a dylanwadu ar ddatblygiadau’r hir dymor yr adran.
  • Gweithio gyda’r cyfarwyddwr i sicrhau cefnogaeth a gofal dros wirfoddolwyr yr adran(nau).
  • Cefnogi prosesau recriwtio’r yn ôl y galw.