Gweithgareddau a digwyddiadau lleol Dewch i gwrdd â phobl ifanc eraill, cymerwch ran mewn rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau a defnyddiwch eich Cymraeg y tu allan i’r ysgol. Gall y cyfleoedd amrywio o glybiau rheolaidd a digwyddiadau cymdeithasol i weithdai creadigol a phrosiectau cymunedol untro. Archwilio gweithgareddau lleol
Teithiau Mwynhewch ddiwrnodau allan, ymweliadau ledled Cymru a chyfleoedd i deithio ymhellach. Mae teithiau’r Urdd yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddarganfod lleoedd newydd, treulio amser gyda ffrindiau a rhannu profiadau newydd. Teithiau gyda’r Urdd
Chwaraeon a chlybiau Ymunwch â sesiwn leol, dysgwch gamp newydd neu cynrychiolwch eich ysgol, clwb neu ardal mewn cystadleuaeth gan yr Urdd. Mae cyfleoedd ar gael mewn amrywiaeth eang o chwaraeon ac i wahanol oedrannau a galluoedd. Dysgu mwy