Dewch gyda ni!

Cyfle bythgofiadwy i ddisgyblion Bl. 8-9 sy’n aelodau o’r Urdd i fynd ar wyliau gyda’u ffrindiau i un o barciau antur enwocaf y byd, yn ogystal â gweld rhai o brif atyniadau prifddinas Ffrainc, Paris.

Archebu lle

Gwybodaeth am y daith

Ar gyfer pwy?
Mae’r daith hon ar gyfer disgyblion sydd am fod yn Blwyddyn 8 neu 9 ym mis Hydref 2026, felly yn Blwyddyn 7 neu 8 ar hyn o bryd.

Pryd mae’r daith?
Hanner Tymor Hydref 2026

Pa mor hir mae’n para?
Pedwar diwrnod, gan gynnwys dwy noson mewn Gwesty Disney ym Mharis.

Beth yw’r pris?
£669 ar gyfer aelodau’r Urdd – os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma. Bydd blaendal o £99 wrth archebu, a chynllun talu dros gyfnod o 10 mis, neu fe allwch dalu’n llawn.

Beth sy’n cael ei gynnwys yn y pris?

  • Trafnidiaeth
  • Croesi o Dover i Calais ar y llong
  • Gwesty, gwely a brecwast am ddwy noson
  • Tocyn 1 x Swper (y noson gyntaf yn y gwesty)
  • Taith gwch ar yr afon Seine
  • Taith bws o amgylch Paris
  • Tocyn 2-ddiwrnod i Disneyland Paris, Disney Studios a Disney Village
  • Staff a gwirfoddolwyr profiadol yn arwain y ffordd
  • Lot fawr o hwyl!

Esiampl o amserlen

  • 7:00am Gadael o leoliadau ar draws Cymru ar gyfer y daith i Calais.
  • 1:00pm Taith bws o amgylch Paris.
  • 3:00pm Taith Gwch ar yr afon Seine.
  • 6:00pm Cyrraedd y gwesty
  • 7:00pm Swper a chyfle i ymlacio.
  • 7:00am Brecwast
  • 9:00am Diwrnod yn Disneyland
  • 7:00pm Swper yn Disney Village
  • 9:00pm Sioe Tân Gwyllt yn Parc Disneyland
  • 11:00pm Nôl i’r gwesty
  • 7:00am Brecwast cyn pacio
  • 9:00am Diwrnod ym Mharc Disney ‘Studios’
  • 7:00pm Swper yn Disney Village
  • 9:00pm Cychwyn ar y daith adref
  • 7:00am Croesi Calais i Dover
  • 12:00pm Cyrraedd nôl adref

Rhestr bacio

  • Pasbort a cherdyn UKGHIC
  • Arian (ewro a sterling)
  • Clustog a blanced ar gyfer cysgu ar y bws
  • DVDs, llyfrau ac adloniant addas
  • Cot law a dilled cynnes

Cwestiynau cyffredin

Bydd angen dod â phasbort cyfredol a cherdyn UKGHIC; bydd staff yr Urdd yn gofalu am y rhain yn ystod y daith. Mae modd gwneud cais am gerdyn UKGHIC yma: www.ehic.org.uk

Bydd rhaid sicrhau fod gofynion mynediad yn unol a rheolau’r swyddfa dramor: https://www.gov.uk/foreign-travel-advice/france/entry-requirements

Rydym yn argymell dod â€130 a £30 ar gyfer bwyd. Mae arian gwario ar bethau eraill (anrhegion, lluniau) i fyny i chi. Ni fydd aelodau staff yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am arian eich plentyn.

Mae yswiriant yn gynwysedig ym mhris y daith, ond nid yw’n cynnwys unrhyw gyflwr sy’n bodoli eisoes.

Wrth archebu mae ffurflen i’w lenwi fewn i nodi pwy ydi’r ffrindiau sydd yn mynychu’r daith; fe fyddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod pawb yn hapus gyda’u ystafelloedd ac efo pwy mae nhw’n rhannu.

Mae’r ystafelloedd yn gymysgedd o ystafelloedd i 3, 4 neu 5 yn ddibynnol ar y gwesty.

Barod i archebu?

Archebwch eich lle ar Daith Disneyland Paris 2026- cyntaf i’r felin!