Trwy ein rhwydwaith o staff cymwysedig darperir chwaraeon cynhwysol o ansawdd uchel sydd yn ymgysylltu â phawb yn y dosbarth drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Darperir sgiliau corfforol, hyder, cymhelliant a chyfleoedd i’r plant. Rydym yn cynnig darpariaeth o ddosbarth Meithrin i fyny, gyda rhaglenni wedi’u teilwra i ofynion y cwricwlwm a’r dosbarth.