Sefydlwyd ymgyrch #FelMerch yn 2021 gan Adran Chwaraeon yr Urdd, gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru, a hynny er mwyn ysbrydoli, cefnogi a grymuso merched ifanc i gadw’n actif a chwalu’r rhwystrau sy’n atal merched rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.
Erbyn hyn mae’r ymgyrch wedi’i ymgorffori gan yr Urdd yn ei gyfanrwydd, a bellach mae’r mudiad yn trefnu teithiau dyngarol #FelMerch i wledydd fel India a Kenya, a cynhelir prosiectau celfyddydol o dan y faner #FelMerch yn ogystal.