Beth yw Cwmni Theatr yr Urdd?

Mae Cwmni Theatr yr Urdd yn dod â phobl ifanc o bob cwr o Gymru ynghyd i greu a pherfformio cynyrchiadau theatr Cymraeg.

Mae cyfleoedd ar gael ar y llwyfan a thu ôl i’r llenni. Gall pobl ifanc ddatblygu eu sgiliau ym maes actio, canu, dawnsio, sgriptio, cyfarwyddo, dylunio, gwisgoedd, sain, goleuo a rheoli llwyfan.

Dros 50 mlynedd o theatr Gymraeg i bobl ifanc

Blagurodd y syniad o greu Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn 1970au rhwng Emyr Edwards a phrif swyddog yr Urdd ar y pryd, R. E. Griffith. O’r cychwyn, y bwriad oedd rhoi cyfle i bobl ifanc gydweithio a pherfformio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ar y dechrau, roedd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn gynllun blynyddol; Hydref i drefnu’r cynhyrchiad, gaeaf i gasglu actorion a phythefnos Pasg i ‘marfer a pherfformio.

Y cynhyrchiad cyntaf oedd ‘Cwymp ac Adferiad Dyn’ gan John Bowen (cyf. J.M. Edwards). Roedd 40 o actorion a thechnegwyr yn ffurfio’r cwmni cyntaf, a thua 90 o gymeriadu i’w portreadu! Perfformiwyd yn Theatr Halliwell, Neuadd Gyhoeddus Pontyberem a Theatr y Sherman.

“Credaf y gall sefydlu’r cwmni hwn o dan nawdd yr Urdd fod yn ddigwyddiad o bwys yn hanes y ddrama yng Nghymru ac fe all ddatblygu’n ffactor allweddol yn hanes y ddrama Gymraeg yn y dyfodol.” – Bob Roberts, Y Faner, Awst 1974.

Ers hynny, mae’r Cwmni wedi sbarduno gyrfaoedd, cyflwyno cynyrchiadau uchelgeisiol ac ailddyfeisio ei hun ar gyfer cenedlaethau newydd.

Cwymp ac Adferiad Dyn gan John Bowen oedd cynhyrchiad cyntaf y Cwmni. Roedd 40 o actorion a thechnegwyr yn rhan ohono, gan bortreadu tua 90 o gymeriadau.

Cyflwynodd y Cwmni gynyrchiadau gan gynnwys Hamlet, Y Brenin Arthur, Romeo a Jwliet, Chicago, Dan y Wenallt ac Elfis.

Perfformiwyd Cysgu’n Brysur yn Aberystwyth i gynulleidfaoedd llawn.

Yn dilyn perfformiadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, cafodd y cast gyfle i berfformio yng nghyngerdd gala 30 mlwyddiant Les Misérables yn y West End.

Crëwyd y cynhyrchiad gwreiddiol hwn mewn partneriaeth â Theatr Bara Caws, gyda pherfformiadau yng Nghaernarfon a Chaerdydd.

Ail-lansiwyd Cwmni Theatr yr Urdd yn ystod blwyddyn canmlwyddiant yr Urdd.

Dyma oedd cynhyrchiad cyntaf y Cwmni ar ei newydd wedd.

Aeth y cynhyrchiad newydd hwn ar daith o amgylch Cymru.

Parhaodd y Cwmni i greu theatr newydd gyda phobl ifanc o bob cwr o Gymru.

Cynhyrchiad mwyaf y Cwmni ers ei ail-lansio, gyda chast o a chriw o 100 o bobl ifanc.

Bod yn rhan o’r Cwmni

Mae clyweliadau a chyfleoedd Cefn Llwyfan yn cael eu cyhoeddi wrth i gynyrchiadau newydd gael eu datblygu.

Cadwa lygad ar y dudalen hon am gyfleoedd i berfformio, creu a gweithio tu ôl i’r llenni.

Camu i fyd y theatr

Boed ar y llwyfan neu tu ôl i’r llenni, mae Cwmni Theatr yr Urdd yn cynnig lle i bobl ifanc greu, cydweithio a datblygu eu doniau drwy gyfrwng y Gymraeg.