Adrodd ar bryder Diogelu

Yn yr Urdd, ein cenhadaeth diogelu yw darparu amgylchedd diogel, cadarnhaol a phleserus i bawb sy’n ymwneud â’n gweithgareddau.

Mae gennym dîm o Bersonau Diogelu Dynodedig i roi cyngor a chefnogaeth, gan sicrhau bod mesurau diogelu cadarn yn eu lle ar draws pob agwedd o ddarpariaeth yr Urdd (manylion cyswllt isod)

Os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol o niwed, dylech gysylltu â’r heddlu ar 999. 

MY VOICE yw’r drefn ar gyfer adrodd yn hawdd am bryderon diogelu – a all fod yn ymwneud â rhywbeth sydd wedi digwydd neu a allai ddigwydd neu rywbeth a allai niweidio rhywun.

Mae MY VOICE yn ffurflen ar-lein syml y gellir ei chyflwyno gan rieni, gofalwyr, neu aelodau’r Urdd. Gellir cyflwyno pryderon gan ddefnyddio’ch enw neu’n ddienw.

Gellir cyrchu’r ffurflen drwy’r ddolen yma: LINK YMA

  • Gall cyfranogwyr, gofalwyr, a/neu rieni agor y ffurflen ar-lein a dechrau cyflwyno eu pryder drwy ateb ychydig o gwestiynau syml.
  • Unwaith y bydd pryder wedi’i gyflwyno, bydd yn mynd yn syth at ein tîm diogelu a fydd yn gweithredu ar y pryder.

Sylwch, os cyflwynwch eich pryder yn ddienw, ni fydd ein tîm diogelu yn gallu ymateb yn llawn i’ch pryder.

  • Os yn bosibl wrth rannu pryder, byddai’n well gennym bob amser pe baech yn siarad yn uniongyrchol ag aelod o staff (manylion cyswllt isod).
  • Os ydych yn defnyddio MYVOICE hoffem i chi gynnwys eich enw wrth roi gwybod am bryder (er nad oes yn rhaid i chi wneud hynny).
  • Os nad ydych yn dymuno rhannu eich manylion, ni allwn roi adborth i chi o’r camau a gymerwyd i fynd i’r afael â’ch pryder, pan allai fod wedi bod yn briodol i ni wneud hynny.
  • NID hwn yw’r lle i roi gwybod am bryder am aelod o staff. Rhaid adrodd yn uniongyrchol ar y rhain i’r Prif Weithredwr: diogelu@urdd.org
  • NID yw hwn yn fforwm i gyflwyno cwynion, defnyddiwch y prosesau presennol i rannu’r rhain gyda ni.

Ni fyddwn yn goddef unrhyw gamddefnydd o’r system hon. Os bydd pryderon yn cael eu hadrodd sy’n fwriadol ffug neu faleisus, byddwn yn eu cyfeirio at yr Heddlu gan y gallai’r ymddygiad hwn gael ei ystyried yn drosedd.

Swyddogion Diogelu yr Urdd

I adrodd ar unrhyw faterion neu bryderon yn ymwneud â diogelu plant a phobl ifanc, cysylltwch gyda’r Swyddog Diogelu perthnasol o’r rhestr isod, neu e-bostiwch diogelu@urdd.org

01745 818600 / 07976003320

01678 541000

01239 652144

02920 635672

07500 607 386

02920 635686 / 07976 003356

02922 405347 / 07966 403394

07976330360