Gwybodaeth i Arweinyddion 2026-2027

Mae llu o adnoddau ar y dudalen yma i’ch cynorthwyo gyda chynnal eich Adran / Uwch-Adran neu Aelwyd.

Mae’n cynnwys Asesiadau Risg – cofiwch ychwanegu’r darnau ‘Safle Sbesific’.

Bydd angen cwblhau’r ffurflen ‘Cais i Gynnal Gweithgaredd’ cyn unrhyw weithgaredd sydd ddim yn digwydd ar eich safle cyfarfod arferol – cofiwch na fydd yswiriant yr urdd yn eich diogelu os nad ydych yn gwneud hyn.

Bydd hefyd angen i bob Arweinydd gwblhau tri cwrs hyfforddi erbyn Hydref 30 2026. Mae’r cyrsiau am ddim, ar lein a ddylai’r tri cwrs ddim cymryd fwy nag awr i’w cwblhau. Mae’n orfodol i bob arweinydd gwblhau’r cyrsiau erbyn Hydref 30ain er mwyn eich diogelu chi fel Arweinyddion, petai damwain neu digwyddiad yn digwydd.

Cofiwch fod ‘na rwydwaith o Swyddogion yn gweithio hyd alled y wlad i’ch cynorthwyo, am fwy o wybodaeth am eich swyddog lleol ewch i www.urdd.cymru/fy-ardal.

Gyda diolch am eich holl waith,

Tîm yr Urdd

Hyfforddiant

Diogelu Plant

Cwblhewch hyfforddiant Diogelu Plant a Phobl Ifanc yr Urdd

Dechrau nawr
Asesu Risg

Cwblhewch hyfforddiant Asesu Risg yr Urdd

Dechrau nawr
Diogelu Data

Cwblhewch hyfforddiant Diogelu Data yr Urdd

Dechrau nawr

Cais i gynnal gweithgaredd

Bydd angen cwblhau’r ffurflen ‘Cais i Gynnal Gweithgaredd’ cyn unrhyw weithgaredd sydd ddim yn digwydd ar eich safle cyfarfod arferol.

Cofiwch na fydd yswiriant yr Urdd yn eich diogelu os nad ydych yn gwneud hyn.

Angen cymorth?

Cysylltwch â ni heddiw, rydym yma i helpu.

E-bostiwch ni