I gwblhau’r 2 alldaith bydd angen i chi gyflawni:

Rhaid cymryd rhan yn y diwrnod hyfforddiant, dim ots faint chi’n gwybod yn barod – prif bwrpas y dydd yw dod i’ch adnabod a rhannu gwybodaeth bwysig. 

  • Cerdded fel grŵp o 4-7 aelod 
  • Fel grŵp, ysgrifennu cynllun bwyd a cherdyn cerdded i bob diwrnod am y 2 alldaith! 
  • Fel grŵp, cyflawni nod penodol dros y 2 alldaith 
  • Hunangynhaliol am yr holl amser, a cherdded yw eich ffordd o deithio! 
  • Gwersylla dros nos 

Alldeithiau Agored Arian – De Cymru

Cost ar gyfer pecyn llawn Arian yn dechrau o £290pp

  • Trafnidiaeth
  • Llogi offer (pabell, sach gefn, mat cysgu, stof coginio, map a chwmpawd)
  • Ffioedd gwersylla
  • Hyfforddwyr ac aseswyr gymwys
  • Hyfforddiant a goruchwyliaeth dydd a nos

Barod i gofrestru?

Cliciwch y ddolen uchod i dalu blaendal am le ar ein diwrnodau hyfforddiant ac alldaith Arian. Gwiriwch y dyddiadau cyn bwcio – mae’n bwysig eich bod chi’n cyflawni pob dyddiad er mwyn llwyddo.

Ar ôl cofrestru, byddwn mewn cyswllt i rannu mwy o wybodaeth am y diwrnodau hyfforddiant ac alldaith. Bydd hwn yn cynnwys llyfr gwybodaeth Dug Caeredin Arian, efo gwybodaeth lleoliadau, amseroedd ac offer ar gyfer yr alldaith.

 

Cofrestru

Rydym yn rhedeg Alldeithiau Agored Arian dros y flwyddyn, yn ystod y gwyliau ysgol. Byddwn yn teithio ar draws de Cymru i gwblhau diwrnod hyfforddiant, alldaith ymarfer ac alldaith asesiad.

Darllenwch y wybodaeth isod a cofrestrwch i gadw eich lle!

Cofrestrwch Yma!

Nodwch:

PWYSIG: Bydd angen eich rhif EDofE i lenwi’r ffurflen ar-lein. Mae rhaid i chi gofrestru gyda Sefydliad Trwyddedig, (e.e. ysgol, grŵp ieuenctid), cyn gallu cofrestru ar alldeithiau’r Urdd. Plîs cysylltwch gyda’r Wobr Dug Caeredin os ydych yn ansicr ar sut i wneud hyn. Dim ond os ydych hefo tudalen Arian ar eich EDofE dylech gofrestru.

Plîs sicrhewch eich bod chi’n llenwi a thicio pob bocs ar y ffurflen, yn ogystal â mewnbynnu eich manylion cerdyn, cyn cadarnhau.