Erbyn diwedd y 70au yr oedd yno sgubor fawr, pwll nofio, ysbyty, siop a champfa newydd. Erbyn dechrau’r 80au roedd grantiau gan y Swyddfa Gymreig yn galluogi’r Gwersyll i ehangu ac adeiladwyd neuaddau, ystafelloedd gwaith, stordy, sied feics a bloc cysgu ar gyfer 80 ychwanegol. Datblygodd gweithgareddau cymharol rhad ond effeithiol a oedd yn cynnwys beiciau modur, BMX, cwrs antur a sglefrolio. Bu’r cyfnod rhwng diwedd yr 80au a dechrau’r 90au yn gyfnod allweddol yn hanes y Gwersyll wrth i atyniadau modern ddenu’r ymwelwyr.
Codwyd llethr sgïo, pwll nofio a llwybr ceffylau newydd. Erbyn canol y 90au Llangrannog oedd un o brif ganolfannau preswyl Cymru gyda’r adnoddau a’r cyfleusterau o’r safon uchaf posib. Codwyd bloc cysgu ‘Yr Hafod’, a chaban bwyta newydd yn y “gwersyll ger y lli”. Yn ystod y 70au hefyd agorwyd canolfan breswyl ym Mlaencwm yng Nghwm Croesor, sydd ar ochrau mynydd Cnicht, a chanolfan arall ym Mhentre Ifan yn Sir Benfro. Adnewyddwyd yr adeilad i fod yn lle addas i bobl ifanc i dreulio gwyliau byr yng nghefn gwlad Cymru.