2000au
Yn 2000 dechreuwyd ar gynlluniau i ddatblygu ymhellach ac adeiladu Neuadd Chwaraeon, llety newydd i 150 a Chanolfan Treftadaeth yn Llangrannog; prosiect a fyddai’n costio £4 miliwn i gyd. Erbyn 2004 gwelwyd y gwersyll ar ei newydd wedd. Crëwyd maes parcio newydd, a llety newydd gyda 34 ystafell en-suite, Canolfan Hamdden a’r cae pob tywydd. Daeth Alun Pugh AC Gweinidog dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon i agor y lle.
Mae’r Gwersyll yn hybu chwaraeon hefyd, a dechreuwyd Ysgol Haf Chwaraeon i blant a daeth 170 ar y cwrs cyntaf. Ac erbyn hyn mae hen adeiladau fferm Cefn Cwrt wedi ei haddasu yn Ganolfan Treftadaeth newydd sbon.
2001
Yn 2001, er gorfod gohirio’r Steddfod oherwydd Clwy’r Traed a’r Genau, cynhaliwyd Gwyl yr Urdd, a chafwyd dwy ganolfan un yn y Gogledd ac un yn y De yn uno mewn dathliad a chystadlu. Arloeswyd mewn gwe-ddarlledu a chafwyd gwylwyr mewn gwledydd ar draws y byd.
Yn 2001 penodwyd pum swyddog chwaraeon i sicrhau bod y ddarpariaeth o’r safon uchaf posib. Yn y blynyddoedd diwethaf cynhaliwyd yr Wyl Rygbi Uwchradd am y tro cyntaf yn Llanelli gyda 108 o dimau adrannau ar draws Cymru wedi cymryd rhan, a chynhaliwyd y gemau terfynol ar Barc y Strade. Erbyn 2003 yr oedd yr ŵyl rygbi wedi ei ehangu i ddau ddiwrnod yn Llanelli, ac yn 2004 daeth 135 o dimau i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.. Daeth yr Urdd yn ‘Ganolfan Achrededig Safonol’ i redeg cyrsiau Arweinwyr Chwaraeon yn y gymuned.
2002
Yn 2005 cynhaliwyd yr Wyl Gymnasteg am y tro cyntaf am ddeuddydd yn Aberystwyth. Yn 2006 cynhaliwyd y gystadleuaeth Aquathlon genedlaethol gyntaf yn Aberystwyth.
Yn 2002 darllenwyd Neges Ewyllys Da gan bedwar o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy yn y Senedd Ewropeaidd i 626 o aelodau Ewropeaidd ym Mrwsel ar Ddydd Ewyllys Da, ac yn 2006 darllenwyd y Neges yn y Senedd o flaen y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, ynghyd ag arweinyddion o wledydd eraill. Yn 2005 cyhoeddwyd y Neges gan Ysgol Gyfun Treorci, yr ysgol ail iaith gyntaf i baratoi’r Neges.
2003
Gwelwyd Jambori fawr arall yn 2003 ym Mharc Margam gyda 2,000 o blant ardal yr Eisteddfod yn bresennol ar ddechrau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn yr ardal honno. Ar ddechrau mileniwm newydd aeth Mistar Urdd ar daith o amgylch ysgolion cynradd ac adrannau, ac ymwelodd â 607 o ysgolion ledled Cymru.
Mae cân Mistar Urdd yn dal i fod yr un mor boblogaidd ag erioed ac fe ail recordiwyd y gân yn 2002 gan y grw^p pop CIC fel cyfrwng i ail danio’r Urdd yn dilyn ymgyrch gyhoeddusrwydd fawr wedi cyfnod y clwy traed a genau. Daeth Côr o Aelwydydd yr Urdd at ei gilydd unwaith yn rhagor i gyhoeddi bod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn dod i Gaerdydd yn 2005. Cydganodd y côr gyda Bryn Terfel ar lwyfan godidog Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.