Eisteddfod yr Urdd, Ceredigion 2029

Mae Urdd Gobaith Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad bod Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn 2029, sef blwyddyn dathlu canmlwyddiant yr ŵyl.

Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: “Rydym yn falch iawn o glywed bod aelodau Cabinet Cyngor Sir Ceredigion wedi cytuno’n ffurfiol i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn 2029, ar beth fydd blwyddyn arbennig iawn, sef blwyddyn dathlu canmlwyddiant ein prifwyl.

“Llwyddiant yr Eisteddfod yr Urdd gyntaf yng Nghorwen yn 1929 yw’r sylfaen i’r hyn a welwn heddiw, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at ddychwelyd i Geredigion am y tro cyntaf ers 2010. Ein bwriad yw cynnal cyfarfod cyhoeddus nos Iau, 18 Mehefin er mwyn dechrau ar y gwaith trefnu ar y cyd â gwirfoddolwyr lleol.”

Y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Cheredigion oedd yng Nghiliau Aeron yn 2010, a chyn hynny yn Llanbedr Pont Steffan yn 1999.

Bydd Eisteddfod yr Urdd Bro’r Wenynen, Gwent 2027 yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd a hynny am y tro cyntaf erioed. Ardal Caernarfon yn rhanbarth Eryri fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2028.

“Mae’n achlysur balch iawn i Geredigion gael y cyfle i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn ystod blwyddyn ei chanmlwyddiant, sy’n atgyfnerthu’r gwreiddiau a’r cysylltiadau dwfn sydd gan Ceredigion â’r Urdd. Mae’r ŵyl yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r Gymraeg, y celfyddydau a chyfleoedd i blant a phobl ifanc, ac edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda’r Urdd a chymunedau lleol i wireddu Eisteddfod gofiadwy yn 2029.”

“Mae pwyllgor rhanbarth Ceredigion yn llawenhau o glywed y newyddion cyffrous fod yr wŷl yn dychwelyd i’r sir yn 2029. Pa le gwell i ddathlu canfed penblwydd yr Eisteddfod nag yng nghwmni’r Cardis! Rydym yn awchu i ddechrau ar y gwaith o gyd-weithio gyda’r holl ran-ddeiliaid er mwyn sicrhau y cyfleodd a’r profiadau gorau i’n plant a’n pobol ifanc.”

Sut allwch chi ddangos eich cefnogaeth i Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2029?

Noddi tlws

Dyma gyfle cyffrous i chi noddi tlws Eisteddfod yr Urdd.

Noddi Tlws

Trwy rodd

Rydym yn ddiolchgar iawn am bob cyfraniad tuag at Eisteddfod yr Urdd 2029.

Dangoswch eich cymorth

Cwestiynau Cyffredin

Bydd Eisteddfod yr Urdd 2029 yn cael ei chynnal yn Sir Geredigion, wrth i’r ŵyl ddathlu ei chanmlwyddiant.

Oes, mae angen tocyn ar gystadleuwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd er mwyn cael mynediad i Faes yr Eisteddfod. Bydd tocynnau pris cynnar ar gael yn ystod Gwanwyn 2029, a bydd modd prynu tocynnau hefyd yn ystod yr ŵyl ei hun.

Gall cystadleuwyr ac ymwelwyr fwynhau amrywiaeth o gystadlaethau, cerddoriaeth fyw, perfformiadau, gweithgareddau i’r teulu, arddangosfeydd, stondinau bwyd, gweithgareddau gwyddoniaeth, a gweithgareddau celf a chrefft.