Yn dilyn llwyddiant ymweliadau #FelMerch yr Urdd â Kolkata, India, yn 2025 a 2026, mae’r Urdd yn falch iawn o allu cynnig cyfle unigryw unwaith eto i 10 o ferched rhwng 18 a 25 oed, sy’n aelodau o’r Urdd, i ymweld â Kolkata am bythefnos ym mis Chwefror 2027.
Bydd y daith yn cael ei threfnu mewn partneriaeth gyda Her Future Coalition – elusen sy’n gweithio yn India i wneud newidiadau cadarnhaol ym mywydau menywod a merched sydd wedi bod, neu sydd mewn perygl o gael eu tynnu i mewn i gaethfasnach rywiol. Mae’r elusen yn ceisio torri’r cylch tlodi drwy ddarparu addysg, hyfforddiant, a gwasanaethau cymorth i helpu merched i adeiladu dyfodol mwy diogel a disglair.
Yn ystod y daith, bydd y merched yn cael cyfle i ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau mewn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn India. Bydd yr amserlen yn llawn profiadau bythgofiadwy.
Bydd Her Future Coalition yn gweithio law yn llaw gyda’r Urdd i drefnu’r daith a’r gweithgareddau, gan sicrhau bod y merched yn gweithio mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Bydd y cyfranogwyr yn cael y cyfle i wneud gwir wahaniaeth, datblygu dealltwriaeth ddyfnach o faterion byd-eang, ac ennill profiad personol a fydd yn eu hysbrydoli am oes.