Gwybodaeth i gyflogwyr

Mae prentisiaeth yn ffordd o recriwtio a meithrin talent newydd neu’n ffordd fforddiadwy o ddatblygu’ch gweithlu presennol. Ariannir yr Urdd er mwyn darparu prentisiaethau gan Lywodraeth Cymru drwy MEDR, ac nid oes cost i’ch sefydliad tu hwnt i gostau cyflogi arferol.

Gallwn eich cynorthwyo wrth recriwtio, dewis rhaglen, sicrhau cydymffurfiaeth, a hybu dwyieithrwydd. Mae ein tîm arbenigol ar gael i’ch tywys o gychwyn y daith, hyd at ddathlu’r llwyddiannau wedi i’ch prentis gwblhau’r brentisiaeth.

Mae prentisiaeth yn para rhwng 12 a 36 mis, yn ddibynnol ar y rhaglen dewisol, ac ar ddiwedd y cyfnod yma fe fydd gan y prentis gymwysterau Lefel 2, 3,4 neu 5 sy’n cael eu cydnabod o fewn y byd gwaith ledled y DU a thu hwnt.

  • Ysgolion Cynradd, Uwchradd, Arbennig
  • Canolfannau Hamdden
  • Cyrff Gwobrwyo Cenedlaethol
  • Clybiau Chwaraeon
  • Canolfannau Awyr Agored
  • Meithrinfeydd
  • Clybiau Ieuenctid
  • Cynghorau Sir
  • Lleoliadau amrywiol eraill o fewn y sectorau chwaraeon, awyr agored, gwaith ieuenctid, addysg a gofal plant.

  • Mae’r holl raglenni brentisiaethau y cynigiwn wedi eu hariannu yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Drwy MEDR felly does dim cost i’r unigolyn na’r cyflogwr.
  • Mae posib dechrau’r hyfforddiant ar unrhyw adeg drwy’r flwyddyn, yn ddibynnol ar gapasiti / cyllid.
  • Does dim angen lefel Cymraeg angenrheidiol dim ond y parodrwydd i wella gallu ieithyddol.

  • Chwaraeon, Hamdden a Lles Actif – Lefel 2
  • Datblygu Chwaraeon – Lefel 3, 4 a 5
  • Cefnogi Dysgu ac Addysgu Mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol – Lefel 3
  • Rhaglenni Awyr Agored – Lefel 3
  • Ymarfer Gwaith Ieuenctid – Lefel 2 a 3
  • Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygu Plant – Lefel 2, 3, 4 a 5
  • Gweithrediadau Hamdden a Rheoli Hamdden – Lefel 3

Beth yw’r cam nesaf?

Chwilio am brentisiaeth neu eisiau datblygu eich gweithlu?

Cysylltwch â’n tîm i drafod yr opsiynau a dod o hyd i’r llwybr cywir.