Heddiw ac i’r Dyfodol

Ymlaen i’r ganrif nesaf!

Mae llawer wedi newid ers y dyddiau cynnar. Erbyn heddiw, yr Urdd yw’r mudiad mwyaf i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Mae Eisteddfod yr Urdd yn cynnig cyfleoedd celfyddydol anhygoel i dros hanner miliwn o blant a phobl ifanc bob blwyddyn. Gyda mwy na 400 o gystadlaethau, o ganu i goginio, o ddawnsio i ddylunio gwefan, ac o sgwennu stori i serennu ar lwyfan – mae rhywbeth yma i bawb.

Fel rheol mae’r cystadlu yn dechrau ym mis Chwefror ar ffurf Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth, gyda’r enillwyr yn mynd ymlaen i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Dyma un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop, sy’n denu 100,000 o ymwelwyr bob mis Mai, yn ystod wythnos hanner tymor y Sulgwyn. Mae cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd hefyd yn un o dargedau’r Siarter Iaith, sy’n ysbrydoli plant i ddefnyddio’r iaith Gymraeg.

Gohiriwyd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych yn 2020 ac 2021 yn sgil Covid-19. Yn ystod y cyfnod yma fe addaswyd yr Eisteddfod gan ddenu miloedd i gystadlu o’u cartrefi yn yr eisteddfod ddigidol Eisteddfod T.

Yn 2022 croesawyd 118,000 o bobl i Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych, y nifer uchaf erioed i fynychu Maes Eisteddfod yr Urdd. Roedd dros 100,000 o gofrestriadau i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 a croesawyd miloedd o bob cwr o Gymru i lwyfannau tri o bafiliynau’r Eisteddfod wrth i’r Urdd gynnig ‘Llwyfan i Bawb’ unwaith eto.

Mae gwaith Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn parhau. Yn 2014 perfformiwyd ‘Cysgu’n Brysur’ yn Aberystwyth i gynulleidfaoedd llawn, ac yn dilyn perfformiadau llwyddiannus o Les Misérables yng Nghanolfan y Mileniwm yn 2015, cafodd y cast berfformio yng nghyngerdd gala 30 mlwyddiant Les Misérables yn y Queen’s Theatre West End a chanu gyda’r cast gwreiddiol ar y llwyfan ar gyfer y ‘finale’! Ffrwyth prosiect ar y cyd rhwng yr Urdd a Chwmni Theatr Bara Caws oedd y sioe wreiddiol ‘Aberhenfelen’ a pherfformiwyd o flaen cynulleidfa yn Galeri Caernarfon ac yn yr ATRIuM yng Nghaerdydd yn 2019. Ail-lansiwyd Cwmni Theatr yr Urdd yn dilyn y pandemig ym mis Medi 2022, a bu i’r Cwmni berfformio eu cynhyrchiad cyntaf yn 2023, sef ‘Deffro’r Gwanwyn’. Mi aeth cynhyrchiad newydd sbon ar daith o amgylch Cymru dros haf 2024 (‘Ble mae trenau’n mynd gyda’r nos a chwestiynau mawr eraill bywyd’) a ‘Ceridwen’ bydd cynhyrchiad 2025.

Mae Adran Chwaraeon yr Urdd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaeth arbenigol i ieuenctid Cymru ac wedi datblygu i fod yn un o’r prif ddarparwyr chwaraeon cyfrwng Cymraeg yng Nghymru. Rydym yn ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a theuluoedd i’w hannog i chwarae rhan weithredol mewn ystod o chwaraeon yn wythnosol, am oes. Mae ein darpariaeth gynhwysol yn cael ei weithredu gan rwydwaith o staff, prentisiaid, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr medrus a llawn cymhelliant sy’n ein galluogi i gynnig gweithgarwch o safon uchel ledled Cymru. Cynhelir 250 o glybiau chwaraeon gennym yn wythnosol, sy’n cael eu mynychu gan 3,500 o aelodau, a cynhelir yn agos at 200 o gystadlaethau i ysgolion cynradd ac uwchradd bob blwyddyn.

Bob blwyddyn mae 103,000 o wersyllwyr a thros 850 o ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru yn mynychu Gwersylloedd yr Urdd. Gyda chefnogaeth ariannol gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a Chronfa Loteri Fawr Cymru, mae’r Urdd yn buddsoddi £9.5 miliwn i ddatblygu’r gwersylloedd yn ganolfannau arloesol, modern sy’n cefnogi dysgu tu allan i’r dosbarth. Dechreuodd y gwaith ehangu ac uwchraddio yn 2019 gan gynnwys y prosiectau canlynol: llety hunangynhaliol Glan-llyn Isa’ a agorodd ei ddrysau ar ei newydd wedd yn 2021; trawsnewid Neuadd Fwyta, Bloc Llety a Neuadd Ymgynnull Gwersyll Llangrannog fel rhan o ddatblygiad ‘Calon y Gwersyll’; a chanolfan chwaraeon dŵr newydd gyda chyfleusterau cyfoes ar safle Gwersyll Glan-llyn. Yn ogystal, agorwyd Gwersyll Amgylcheddol cyntaf yr Urdd ym Mhentre’ Ifan, Sir Benfro yn 2023.

Mae’r adran Brentisiaethau wedi pontio’r bwlch rhwng addysg a chyflogaeth ers 2014, gan helpu dros 1,000 o unigolion i ennill profiad gwaith a chymwysterau pellach. Mae’r adran yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i ddatblygu amrywiaeth o brentisiaethau a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg sy’n cynnig cyfleoedd newydd i ddysgu, datblygu a chynyddu hyder yn y gweithle. O brentisiaethau chwaraeon i gymwysterau ac achrediadau, rydym yn cynnig amrywiol gyfleoedd i bob oed a gallu.

Mae adran Gymunedol yr Urdd yn canolbwyntio ar gynnig cyfleoedd celfyddydol amrywiol yn ogystal â chefnogaeth i wirfoddolwyr a chyfleoedd i blant a phobl ifanc gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae’r adran yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau, o ddigidol a dyngarol i wyneb yn wyneb gan gefnogi cymunedau ledled Cymru. Rydym yn cefnogi ysgolion i gystadlu yn Eisteddfodau’r Urdd yn ogystal â datblygu adrannau ac aelwydydd yr Urdd.

Ein nod ers y cychwyn cyntaf yw dod a’r Gymraeg yn fyw i blant a phobl ifanc Cymru, a gyda chynllun y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rydyn ni’n falch iawn o gefnogi’r uchelgais hwn gyda’n gwaith.

Ein hamcanion strategol am y 5 mlynedd nesaf yw canolbwyntio ar y canlynol:

  • Urdd i Bawb – cynnig darpariaeth gyson a theg sy’n croesawu amrywiaeth
  • Ein cynnig – sy’n apelgar, cyfoes ac yn hyblyg
  • Ein gwirfoddolwyr – y llwybrau cefnogi ac uwchsgilio
  • Ein gweithlu – sy’n gymwys, hyblyg a chynhwysiol
  • Ein hamgylchedd – Urdd sy’n amgylcheddol gyfrifol
  • Ein heiddo – sy’n apelgar ac yn addas at anghenion y dyfodol

I ddarllen ein Cynllun Strategol yn llawn Cliciwch Yma.