Ysgoloriaethau a gwobrau

Mae Eisteddfod yr Urdd yn llawer mwy na chyfle i gystadlu. Bob blwyddyn, mae ysgoloriaethau a gwobrau arbennig yn cefnogi rhai o artistiaid, perfformwyr a chyfathrebwyr ifanc mwyaf addawol Cymru.

Gall y cyfleoedd gynnwys cyllid, mentora, hyfforddian

Gwobrau

Mae’r Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cynnig chwe gwobr i gystadleuwyr sy’n sefyll allan yn ystod yr Eisteddfod.

Mae pob enillydd yn derbyn sesiynau mentora, cefnogaeth ariannol tuag at hyfforddiant pellach a chyfleoedd i berfformio neu arddangos ei dalent yn ystod y flwyddyn.

Gwobr Syr Bryn Terfel

I berfformwyr lleisiol sy’n cystadlu mewn unawd, alaw werin neu gystadleuaeth Cerdd Dant.

Gwobr Amy Dowden

I ddawnswyr sy’n cystadlu mewn stepio traddodiadol neu ddawns unigol.

Gwobr Callum Scott Howells

I berfformwyr sy’n cystadlu drwy berfformio cân o sioe gerdd.

Gwobr Matthew Rhys

I berfformwyr theatr sy’n cystadlu mewn llefaru unigol neu fonolog.

Gwobr Rakhi Singh

I gerddorion sy’n cystadlu mewn unawd offerynnol.

Gwobr Sarah Hemsley-Cole

I bobl ifanc sy’n cyflwyno portffolio yn dangos eu gwaith a’u talentau cefn llwyfan.

Cwestiynau cyffredin

Mae’n dibynnu ar yr ysgoloriaeth. Mae rhai yn gystadlaethau penodol, tra bod eraill yn cael eu dyfarnu i gystadleuwyr mewn categorïau cymwys.

Oes. Mae angen aelodaeth gyfredol er mwyn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.

Gelli di gofrestru ar gyfer mwy nag un gystadleuaeth os wyt ti’n gymwys. Gwna’n siŵr dy fod yn gwirio rheolau pob cystadleuaeth yn gyntaf.

Mae’r dyddiadau’n amrywio yn ôl y gystadleuaeth. Mae’r holl ddyddiadau cau yn y Rhestr Testunau ddiweddaraf.

Gall ysgoloriaethau, gwobrau, meini prawf a dyddiadau newid. Defnyddia’r Rhestr Testunau gyfredol cyn cofrestru.

Cystadla yn Eisteddfod yr Urdd

Dewisa dy gystadleuaeth, paratoa dy berfformiad neu dy waith, a chymer dy le yn Eisteddfod yr Urdd.