Cwblhau Prentisiaeth yn dy swydd

Mae Adran Brentisiaethau’r Urdd yn ddarparwr hyfforddiant blaenllaw, sy’n cynnig prentisiaethau o safon ers 2014. Rydym yn arbenigo mewn rhaglenni Cymraeg a dwyieithog sy’n grymuso gweithluoedd ar draws y sectorau Chwaraeon, Gwaith Ieuenctid, yr Awyr Agored, Addysg a Gofal Plant. Ein nod yw meithrin sgiliau ymarferol, hyder proffesiynol a chyfleoedd datblygu gwirioneddol i ddysgwyr o bob oed a chefndir.

I gwblhau prentisiaeth, mae angen i ti fod yn gweithio i gyflogwr neu ar fin cychwyn gweithio. Weithiau mae cyfle i gael dy gyflogi gan yr Urdd, ond fel arfer rwyt ti’n gweithio i unrhyw un o’n partneriaid ar draws Cymru.

Does dim rhaid gweithio i’r Urdd i wneud prentisiaeth gyda ni!

  • Uwch-sgilio yn dy faes
  • Ennill cymwysterau cydnabyddedig
  • Datblygu dy yrfa
  • Parhau i ennill cyflog yn dy rôl bresennol
  • Ennill sgiliau sydd yn addas at y byd gwaith

Mae’n bwysig nodi fod yr hyfforddiant yn rhad ac am ddim i ti ac i’r cyflogwr, gan bod y rhaglen brentisiaethau wedi ei ariannu gan Llywodraeth Cymru, drwy MEDR.
Bydd ein tîm profiadol gyda ti bob cam o’r ffordd.

  • Ysgolion Cynradd, Uwchradd ac Arbennig
  • Canolfannau Hamdden
  • Clybiau Chwaraeon
  • Canolfannau Awyr Agored
  • Meithrinfeydd
  • Clybiau Ieuenctid
  • Cynghorau Sir
  • Lleoliadau gwaith eraill o fewn y sectorau Chwaraeon, Gwaith Ieuenctid, Awyr Agored a Gofal Plant

  • Chwaraeon, Hamdden a Lles Actif – Lefel 2
  • Datblygu Chwaraeon – Lefel 3, 4 a 5
  • Cefnogi Dysgu ac Addysgu Mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol – Lefel 3
  • Rhaglenni Awyr Agored – Lefel 3
  • Ymarfer Gwaith Ieuenctid – Lefel 2 a 3
  • Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygu Plant – Lefel 2, 3, 4 a 5
  • Gweithrediadau Hamdden a Rheoli Hamdden – Lefel 3
Grwp o brentisiaid yn chwerthin wrth wneud weithgaredd o amgylch bwrdd

Prentisiaeth gyda’r Urdd

Mae’r Urdd fel arfer yn recriwtio prentisiaid unwaith y flwyddyn, gyda’r Urdd yn gweithredu fel y cyflogwr a’r darparwr hyfforddiant. Fel rheol, mae’r cyfleoedd hyn yn ein Hadran Chwaraeon neu yn ein gwersylloedd.

Mae’r Urdd yn cynnig swyddi llawn amser i unrhyw un sydd am ennill profiad, cymwysterau ac ennill cyflog ar yr un pryd.

Gall unigolion dros 18 mlwydd oed ymgeisio am swydd gyda’r Urdd, ac mae gennym gyfleoedd ar draws Cymru gyfan. Mae gofyn fod gennyt ddiddordeb mewn chwaraeon neu’r awyr agored ac yn barod i weithio gyda phlant a phobl ifanc.

Os yn llwyddiannus, fyddi di’n datblygu dy sgiliau gydag Adran Chwaraeon yr Urdd. Bydd cyfle i bob prentis ddysgu wrth staff profiadol yr Adran Prentisiaethau a’r Adran Chwaraeon er mwyn i ti arwain gweithgareddau o safon uchel ar gyfer plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Prentisiaethau presennol

Clicia yma i weld os oes swyddi a phrentisiaethau ar gael gyda’r Urdd ar hyn o bryd.

Dysgu mwy

Gwybodaeth i’w gofio

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

• Mae’r holl raglenni brentisiaethau y cynigiwn wedi eu hariannu yn llawn gan Lywodraeth Cymru felly does dim cost i’r unigolyn na’r cyflogwr.

• Mae posib dechrau’r hyfforddiant ar unrhyw adeg drwy’r flwyddyn.

• Does dim angen lefel Cymraeg angenrheidiol dim ond y parodrwydd i wella eich gallu ieithyddol.

Mae pob rhaglen prentisiaeth yn cynnwys elfennau o sgiliau hanfodol. Mae’r HWB yn arbenigo mewn helpu prentisiaid i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, rhifedd a llythrennedd digidol. Yn ddibynnol ar eich cymwysterau presennol, bydd angen cwblhau rhai cymwysterau sgiliau hanfodol fel rhan o’ch rhaglen. Bydd ein tîm cyfeillgar ac arbenigol yn eich tywys chi pob cam o’r ffordd.

Pam bwrw prentisiaeth drwy’r Urdd?

Profiad a chymwysterau

Ennilla brofiad ymarferol a chymhwyster cydnabyddedig wrth weithio.

Cymraeg neu ddwyieithog

Dewisa sut rwyt ti am ddysgu, gyda chefnogaeth gan ein tîm profiadol.

Cyfle wedi’i ariannu

Ariennir ein hyfforddiant gan Lywodraeth Cymru, drwy MEDR.

Grwp o brentisiaid yn chwerthin wrth wneud weithgaredd o amgylch bwrdd

Cofrestra dy ddiddordeb

Cofrestra dy ddiddordeb i fod yn brentis gyda’r Urdd i’r dyfodol neu i drafod dy amrywiol opsiynau wrth edrych tua’r dyfodol.