Gadael Rhodd

I nifer ohonom, roedd ymwneud â gweithgareddau’r Urdd yn rhan annatod o’n plentyndod.
Mae gadael rhodd i’r mudiad yn eich ewyllys yn fodd o helpu i sicrhau y bydd gan genedlaethau’r dyfodol cyfle i fwynhau’r un profiadau.

Penderfyniad personol ydy gadael rhodd. Ar ôl gofalu am anghenion eu teuluoedd, gall nifer o resymau gymell unigolyn i adael rhodd i elusen.

  • I goffau eich hun, neu’r gwerthoedd sy’n bwysig i chi
  • I goffau rhywun oedd yn annwyl i chi
  • Ymateb i angen a welwch yn eich cymuned
  • I sicrhau sylfaen gref i’r mudiad tua’r dyfodol, neu i ddangos eich gwerthfawrogiad o waith y mudiad.

Dros y blynyddoedd, y mae cymynroddion a rhoddion wedi ein galluogi i wneud gwelliannau a buddsoddiadau allweddol – megis moderneiddio cyfleusterau yn y gwersylloedd gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn atyniadol i ymwelwyr.

Mae rhoddion o ffynonellau allanol hefyd yn ffordd bwysig o gynorthwyo’r Urdd i gadw’r costau mor isel â phosibl i’w haelodau.

Yn y gorffennol, cafodd cymynroddion eu defnyddio i:

• Wella adnoddau’r Urdd e.e. Moderneiddio’r gwersylloedd, e.e. Bloc llety newydd yn Llangrannog a Glan-llyn.
• I wella ar y ddarpariaeth ddiwylliannol yn Eisteddfod yr Urdd
• I gefnogi gwaith maes yr Urdd
• I sefydlu gwobrau neu ysgoloriaethau yn eich enw

Gall unrhyw unigolyn, ar unrhyw bwynt yn eu bywydau, greu cymynrodd. Argymhellwn gael cymorth proffesiynol gan gyfreithiwr wrth ystyried llunio, neu addasu ewyllys. Gall gyfreithwyr hefyd eich cynghori ynglŷn â goblygiadau all fodoli o ran lleihau’r dreth y byddwch yn talu ar eich eiddo.

Os hoffech drafod y posibilrwydd o adael rhodd ymhellach, croeso i chi gysylltu gyda ni ar helo@urdd.org. Byddwn yn cadw pob sgwrs yn gyfrinachol pe ddymunwch.

Os ydych eisoes wedi penderfynu gadael rhodd i’r mudiad, ac yn fodlon rhoi gwybod inni, byddai hynny’n rhoi cyfle inni ddiolch yn bersonol ichi, yn ogystal â blaengynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

Nawdd a Phartneriaethau Corfforaethol

Mae’r Urdd wedi bod yn ffodus i ddatblygu perthynas hir-dymor a llwyddiannus gyda nifer o fusnesau mwyaf blaenllaw Cymru, gan esgor ar gyfleoedd heb eu hail i blant a phobl ifanc

Mae gan yr Urdd brofiad helaeth o gydweithio’n llwyddiannus gyda phartneriaid corfforaethol. Rydym fel mudiad yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cefnogaeth bwysig.

Fel elusen gofrestredig rydym yn edrych yn barhaus i gynyddu ar ein partneriaethau gyda sefydliadau yng Nghymru, yn arbennig yng nghyd-destun ein digwyddiadau cenedlaethol megis Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Yr Urdd yw mudiad ieuenctid mwyaf Cymru. Drwy bartneriaethau gyda ni, gallwn eich cynorthwyo i gael effaith positif yn eich cymunedau. Rydym hefyd yn falch o allu cynnig buddiannau a chyfleoedd hyrwyddo pwysig i’n cefnogwyr corfforaethol.

Mae partneriaeth gyda’r Urdd yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth a phroffil eich sefydliad ar hyd a lled Cymru gan gynnig cefnogaeth hanfodol i’r Urdd yn ogystal.

• Y Celfyddydau: Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
• Chwaraeon Cenedlaethol
• Gwaith yr Urdd yn y gymuned

Cysylltwch â ni ar helo@urdd.org am becynnau nawdd

Mae rhestr cyflawn o Noddwyr a Phartneriaid Urdd Gobaith Cymru ar gael yn ein Hadroddiad Blynyddol diweddaraf.

Diolchwn i’r holl sefydliadau a gefnogodd ein gwaith yn ystod y flwyddyn.

Cwestiynau Cyffredin

Dros y cyfnod diweddaraf, defnyddiwyd cyfraniadau gan unigolion er mwyn:

  • Cynnal gweithgareddau yn y Gymraeg yn lleol mewn cymunedau ledled Cymru
  • Cynnig gwyliau haf yng ngwersylloedd yr Urdd i blant difreintiedig (Cronfa Cyfle i Bawb)
  • Gwella profiadau ymwelwyr a chystadleuwyr yn yr Eisteddfodau lleol
  • Datblygu adnoddau addas i ddefnyddio mewn gweithgareddau
  • Llogi lleoliadau i gynnal digwyddiadau fel cystadlaethau chwaraeon, rimbojams a jamboris
  • Cynnig costau teithio i wirfoddolwyr a chynorthwywyr
  • Cynnig gweithdai neu hyfforddiant i bobl ifanc ar themâu sy’n berthnasol iddyn nhw

Mae holl weithgareddau’r Urdd – ar lefel lleol a chenedlaethol, yn ddibynnol ar ddod o hyd i ddigon o arian ac adnoddau.

Ers ei sefydlu yn 1922 mae’r Urdd wedi chwarae rhan hanfodol yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg ymysg ieuenctid Cymru.

Mae gan miloedd o bobl atgofion melys o ymwneud â’r Urdd dros y blynyddoedd, ac mae eich rhodd yn gymorth mawr i ni barhau gyda’r gwaith allweddol hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Ein nod yw i ddarparu ystod eang o brofiadau bythgofiadwy i blant a phobl ifanc, gan roi cyfle iddynt ddatblygu sgiliau cymdeithasol a phersonol pwysig, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

Efallai’n bwysicach na dim, mae cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Urdd wedi darparu cenedlaethau o bobl ifanc gydag atgofion a ffrindiau oes.

Fel elusen gofrestredig, ni fyddai’n bosibl i ni barhau gyda’n gwaith heb gefnogaeth ariannol o ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys tâl aelodaeth, nawdd corfforaethol, rhoddion gan unigolion a grantiau llywodraeth.

Prentis yn mwynhau arwain sesiwn chwaraeon gyda grŵp o blant

Gwneud Cyfraniad

Gallwch gyfrannu at ein gwaith drwy rodd ariannol. Mae’n hawdd ac yn gyflym i wneud ar-lein.