Pa gyfleoedd sydd ar gael?

Bob blwyddyn, mae miloedd o wirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser i gefnogi gweithgareddau’r Urdd.

Yn feirniaid Eisteddfod, hyfforddwyr pêl-droed, cerdd dant neu lefaru, yn athrawon, rhieni, cyn-aelodau, arweinwyr aelwyd neu’n bobl ifanc…

Hebddo chi, ni fyddai’r Urdd yn bodoli yn ei ffurf bresennol, ac mae ein diolch yn ddirfawr. 

Helpu i gynnal adran, aelwyd, clwb cinio neu glwb ar ôl ysgol yn dy ardal.

Does dim angen cymhwyster hyfforddi i ddechrau cynorthwyo mewn clwb lleol. Galli di weithio ochr yn ochr â staff a phrentisiaid yr Urdd er mwyn magu profiad.

Croeso i ti gynorthwyo mewn clwb, arwain weithgaredd neu helpu mewn cystadleuaeth neu ddigwyddiad chwaraeon.

Croesawu ymwelwyr, cefnogi cystadlaethau neu helpu gyda pherfformiadau ac Eisteddfodau lleol a chenedlaethol.

Ymuno â thîm SWOG a helpu plant a phobl ifanc i gael gwersyll haf i’w gofio.

Cefnogi teithiau undydd, teithiau tramor neu brosiectau dyngarol pan fydd cyfleoedd ar gael.

Casglu lluniau, fideos a straeon, neu helpu’r tîm i gynnal digwyddiadau ledled Cymru.

Gwirfoddoli Chwaraeon

Cofrestra dy diddordeb i wirfoddoli gyda ni!

Dysgu mwy
Eisteddfod Wrecsam 2025
Gwirfoddoli cymunedol

Cysylltwch i gynorthwyo’r adran Ieuenctid a Chymuned

E-bostiwch ni
Prosiectau Rhyngwladol

Cyfleoedd gwirfoddol unigryw i oedolion ifanc

Dysgu mwy

Cwestiynau cyffredin 

Gall unigolion dros 14 mlwydd oed wirfoddoli i’r Urdd ar draws Gymru. Mae’r cyfleoedd yn amrywio yn ôl eich oedran, a byddwn yn cynnig mwy o gyfrifoldebau wrth i’r unigolyn fynd yn hŷn.

Nid oes angen unrhyw gymwysterau na phrofiad blaenorol er mwyn gwirfoddoli gydag Adran Chwaraeon yr Urdd. Mae cyfleoedd ar gael i unigolion gynorthwyo staff neu prentisiaid chwaraeon yr Urdd mewn clybiau lleol.

Er hyn, os oes gennych gymhwyster hyfforddi chwaraeon, bydd mwy o gyfleoedd a chyfrifoldebau ar gael i hyfforddi plant a phobl ifanc yn ein clybiau.

  • Gwersylloedd haf (Caerdydd, Glan-llyn, Llangrannog, Pentre Ifan)
  • Gweithgareddau celfyddydol
  • Aelwydydd/clybiau lleol
  • Teithiau ledled Cymru
  • Prosiectau Rhyngwladol
  • Eisteddfodau lleol
  • Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
  • Fforymau ieuenctid
Eisteddfod Rhanbarth Abertawe

Barod i wirfoddoli?

Dyweda wrthym ble rwyt ti, beth sydd o ddiddordeb i ti a faint o amser sydd gen ti. Byddwn yn helpu i ddod o hyd i gyfle sy’n addas i ti.