Dechrau heddiw

Gall cymhwyster ddechrau mewn clwb chwaraeon, wrth wirfoddoli, yn yr awyr agored neu mewn gweithdy ar-lein.

Drwy’r Urdd, gelli di ddysgu sgiliau ymarferol, magu hyder a chael cydnabyddiaeth am yr hyn rwyt ti wedi’i gyflawni.

Mae cyfleoedd ar gael mewn gwaith ieuenctid, chwaraeon, diogelwch, arweinyddiaeth, cyflogadwyedd a llawer mwy.

Mae’r rhan fwyaf o’r cyfleoedd yn cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Pa gyfleoedd sydd i ti?

Nid yw pob cwrs ar gael drwy’r amser. Gall y dewis ddibynnu ar dy oedran, dy ardal, cyllid, nifer y cyfranogwyr a’r cyrff dyfarnu sy’n rhan o’r rhaglen.