Tanysgrifia ar E-bost

Mae IAW yn gylchgrawn hollol unigryw i helpu pobl ifanc Cymru i ddysgu Cymraeg, ac yn cynnwys ystod eang o bynciau cyfoes sy’n berthnasol i bobl ifanc.

Dyddiadau Cyhoeddi 2025-26

Dyma’r dyddiadau bydd rhifynnau IAW yn cael eu cyhoeddi am eleni. Ar ôl tanysgrifio, cadwch olwg ar eich e-byst ar y dyddiadau yma! 

Rhifyn Hydref/Tachwedd – 1 Hydref, 2025 

Rhifyn Rhagfyr/Ionawr – 1 Rhagfyr, 2025 

Rhifyn Chwefror/Mawrth – 2 Chwefror, 2026 

Rhifyn Ebrill/Mai – 1 Ebrill, 2026 

Rhifyn Mehefin/Gorffennaf – 8 Mehefin, 2026 

Am y cylchgrawn

Mae IAW yn gylchgrawn hollol unigryw i helpu pobl ifanc Cymru i ddysgu Cymraeg, ac yn cynnwys ystod eang o bynciau cyfoes sy’n berthnasol i bobl ifanc. Mae darllenwyr IAW yn aml yn cyfrannu at y cylchgrawn trwy ysgrifennu llythyron neu gynnig gwaith neu brosiectau o’r ysgol, sy’n gyfle gwych i ymarfer eu sgiliau llafar, ysgrifenedig a golygyddol yn y Gymraeg. 

Mae IAW yn addas i bobl ifanc CA3 a CA4 sy’n dilyn y Cwricwlwm Cymraeg ail-iaith hyd at TGAU. 

Mae taflenni gwaith yn y cylchgrawn yn cyd-fynd â gofynion y Cwricwlwm ac yn cefnogi datblygiad academaidd disgyblion trwy gynnwys apelgar, cyfoes. 

Mae IAW yn gylchgrawn sy’n cefnogi dysgu yn y dosbarth a thu hwnt. Yn y cylchgrawn mae taflenni geirfa, patrymau iaith a gweithgareddau i’r athro. Mae’r amrywiaeth yng nghynnwys y cylchgrawn bob mis yn dilyn themâu misol ac yn cadw’r cynnwys yn ffres a pherthnasol i ddysgwyr ifanc. Mae croeso i athrawon gynnig IAW yn gyflawn yn eu hystafell ddosbarth ddigidol, ei fewnosod ar eu gwefan neu ei ddosbarthu’n ddigidol, mae croeso i chi wneud hynny hefyd. 

Noddwr IAW

Gyda diolch am y gefnogaeth ariannol i IAW